Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 04 Mis Hydref 2019
Bro Morgannwg
Ymunodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio â llawer iawn o westeion yn yr ysgol i nodi’r achlysur.
Yn rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor, bydd y project yn cynnwys adeiladu bloc dylunio a thechnoleg newydd, bloc chwaraeon a TG, ardal gemau aml-ddefnydd gyda chwe llain darmac a chae 3G bob tywydd.
Bydd ardal dderbynfa newydd a bloc mynediad hefyd yn cael eu hadeiladu yn ogystal ag ystafell blanhigion ac ardal codi a gollwng bysus newydd.
Bydd y cyfleusterau newydd hyn yn golygu bod capasiti’r ysgol yn cynyddu gan 299, o 1,361 i 1,660.
Bydd y cae newydd ar agor tan 10pm at ddibenion cymunedol.
“Rwy’n falch iawn bod y gwaith wedi dechrau ar y project gwych hwn, fydd yn caniatáu i Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ddod yn ysgol fodern iawn gyda chyfleusterau penigamp. “Dyma’r cynllun cyntaf mewn rhaglen waith uchelgeisiol iawn fydd yn trawsffurfio seilwaith addysgol ledled y Fro. “Bydd disgyblion a chymunedau’r Fro yn elwa’n ofnadwy ar y buddsoddiad sylweddol hwn i adeiladau a chyfleusterau ysgol penigamp.” - y Cynghorydd Burnett.
“Rwy’n falch iawn bod y gwaith wedi dechrau ar y project gwych hwn, fydd yn caniatáu i Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ddod yn ysgol fodern iawn gyda chyfleusterau penigamp.
“Dyma’r cynllun cyntaf mewn rhaglen waith uchelgeisiol iawn fydd yn trawsffurfio seilwaith addysgol ledled y Fro.
“Bydd disgyblion a chymunedau’r Fro yn elwa’n ofnadwy ar y buddsoddiad sylweddol hwn i adeiladau a chyfleusterau ysgol penigamp.” - y Cynghorydd Burnett.