Cerdded Milltir yn ei sgidiau hi gyda Chyngor y Fro
Gwisgodd cyflogeion Cyngor Bro Morgannwg esgidiau menywod i gwblhau taith filltir o hyd o amgylch canol dinas Caerdydd yn rhan o ymgyrch Rhuban Gwyn y DU gyfan.
Mae’r ymgyrch, yn ei chweched flwyddyn erbyn hyn, wedi mynd o nerth i nerth o 14 o ddynion i fwy na 105. Mae’r digwyddiad yn dod â dynion at ei gilydd i weithio i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, trais domestig a thrais rhywiol.
Aelodau o’r cyhoedd a staff gwrywaidd o sefydliadau megis Atal y Fro, Cymru Ddiogelach, Cadwyn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro oedd ymhlith y rheiny oedd yn cerdded ochr yn ochr â Chyfarwyddwr Gwasanaethau'r Amgylchedd a Thai, Miles Punter a Rheolwr Gweithredol Peirianneg, Mike Clogg o gyngor y Fro.
Mae’r llwybr yn dechrau ac yn dod i ben wrth Gastell Caerdydd ac yn cynnwys llawer o strydoedd prysuraf y brifddinas ar hyd y ffordd. Cynhaliwyd munud o dawelwch y tu allan i siop Matalan ar Stryd y Frenhines i gofio dau berson a gollodd eu bywydau y llynedd o ganlyniad i drais domestig.
Yn dilyn y daith cafodd y cerddwyr eu gwahodd i ymgynnull o flaen y castell eto i wrando ar brif siaradwyr. Eleni, rhannodd dau ddioddefwr trais domestig a thrais rhywiol eu profiadau gyda’r grŵp, a chyfrannodd trydydd siaradwr sy’n gweithio gyda chyflawnwyr trais domestig.
Roedd Pencampwr y Rhuban Gwyn a chynghorydd Bro Morgannwg ar gyfer ward y Cwrt, y Cynghorydd Sandra Perkes hefyd yn bresennol yn y digwyddiad. Dywedodd hi: “Roedd y digwyddiad Cerdded Milltir eleni yn hynod o lwyddiannus eto. Mae’r dynion sy’n cerdded yn gwneud datganiad cyhoeddus pwysig yn erbyn cyflawni trais yn erbyn menywod a merched ifanc, a rhag ei esgusodi neu gadw’n dawel amdano.
“Cawsom ddiwrnod gwych i wneud hyn a hoffwn ddiolch a llongyfarch pawb a gymerodd ran.”
Bob blwyddyn, bydd mwy na miliwn o fenywod yn dioddef cam-drin domestig yn y DU, a bydd mwy na 360,000 yn dioddef ymosodiadau rhywiol. Er bod cam-drin menywod yn llawer uwch, mae’r ymgyrch yn cydnabod y gall unrhyw un ddioddef o drais a cham-drin.
Os ydych chi neu rywun y gwyddoch amdano/amdani yn dioddef o drais domestig gallwch geisio cymorth a chefnogaeth gan y llinell gymorth Byw Heb Ofn: