Chwilio am ddeg seren y dyfodol i ymuno â’r Academi Chwaraeon
Mae’r tîm yng Nghyngor Bro Morgannwg a Legacy Leisure yn chwilio am 10 perfformiwr chwaraeon rhyngwladol i ymuno â’u cynllun Academi Chwaraeon.
Mae’r cynnig hwn, a gyflwynir drwy bartneriaeth rhwng yr Awdurdod Lleol a’r sefydliad sy’n rheoli canolfannau hamdden yn y sir, yn cynnig cyfle i unigolion â photensial elit ym maes chwaraeon i ddefnyddio cyfleusterau priodol yn rhad ac am ddim.
Gallai hynny gynnwys campfaoedd, cyrtiau sboncen a thenis, pyllau nofio, trac Stadiwm Parc Jenner a mwy a bydd cyfle i fynd i ddosbarthiadau ffitrwydd.
Mae’r rhai a elwodd eisoes yn cynnwys Brett Morse o Benarth, deiliad record Cymru am daflu’r ddisgen a bu unwaith yn yr wythfed safle trwy’r byd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant, y Cynghorydd Kathryn McCaffer: “Mae gennym ddarpar sêr chwaraeon hynod dalentog yn y Fro a hoffem roi pob cyfle iddynt wireddu eu potensial.

“Felly, caiff 10 unigolyn addawol gyfle i ymuno â’n cynllun Academi Chwaraeon, sy’n cynnig iddynt ddefnyddio cyfleusterau chwaraeon y Fro am ddim. Gyda gobaith, gall hyn eu helpu i godi i’r lefel nesaf.”
Rhaid i’r ymgeiswyr fod yn drigolion y Fro a chymryd rhan mewn camp a gydnabyddir gan Chwaraeon Cymru a rhaid iddynt fod yn gysylltiedig â Chorff Llywodraethu Chwaraeon Cenedlaethol a gydnabyddir yn briodol.
Mae angen hefyd eu bod wedi cyrraedd statws carfan Cymru neu genedl arall, wedi cynrychioli eu gwlad y flwyddyn flaenorol a’i bod yn bosibl y cânt chwarae’n rhyngwladol yn y 12 mis a ganlyn.
Os ydych yn teimlo eich bod yn ateb y meini prawf ac y byddech yn elwa wrth fod yn aelod o’r Academi Chwaraeon, cysylltwch â Karen Davies trwy e-bostio KJDavies@valeofglamorgan.gov.uk neu ffonio 01446 704793 am ragor o wybodaeth ac i gael ffurflen gais.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais fydd 05 Rhagfyr a phanel yr Academi Chwaraeon fydd yn gwneud y detholiad terfynol.