Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 04 Mis Hydref 2019
Bro Morgannwg
Caiff y prosiect ei lansio ar ddydd Llun 28 Hydref, gyda’r gobaith o frwydro yn erbyn allgau cymdeithasol a gwella llythrennedd digidol drwy alluogi aelodau i fenthyca iPads 4G.
Bydd y tabledi yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau defnyddiol megis gwasanaethau llyfrgell ar-lein, apiau iechyd a llesiant, yn ogystal â gwybodaeth am wasanaethau cymunedol. Credir bod tua 45,000 o aelodau llyfrgell yn gymwys ac yn gallu elwa o’r gwasanaeth. Bydd holl lyfrgelloedd Bro Morgannwg yn cymryd rhan yn y cynllun.
Mae’r rhaglen benthyca yn cael ei harwain gan Newydd Housing Association a Chymunedau Digidol Cymru gydag arian a dderbyniwyd drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Ariennir hwn gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae Cyngor Bro Morgannwg, Newydd Housing Association, Hale Construction a WK Plasterers ymhlith y rheini hefyd yn cefnogi’r cynllun.
“Nid oes gan lawer o bobl ledled Bro Morgannwg fynediad rheolaidd i’r rhyngrwyd ac o ganlyniad maent mewn sefyllfa pan fônt wedi’u heithrio o gyfoeth o adnoddau a gwasanaethau hanfodol. Mae’r project arloesol hwn yn helpu aelodau llyfrgell i fenthyca iPads mor hawdd ac y gallant fenthyca llyfrau. "Rydym yn gobeithio y bydd y project yn helpu’r rheiny sydd fwyaf angen mynediad i’r rhyngrwyd a thechnoleg.” - y Cyng. Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio.
“Nid oes gan lawer o bobl ledled Bro Morgannwg fynediad rheolaidd i’r rhyngrwyd ac o ganlyniad maent mewn sefyllfa pan fônt wedi’u heithrio o gyfoeth o adnoddau a gwasanaethau hanfodol. Mae’r project arloesol hwn yn helpu aelodau llyfrgell i fenthyca iPads mor hawdd ac y gallant fenthyca llyfrau.
"Rydym yn gobeithio y bydd y project yn helpu’r rheiny sydd fwyaf angen mynediad i’r rhyngrwyd a thechnoleg.” - y Cyng. Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio.