Trigolion STAR yn dathlu eu pod cymunedol newydd
Mae pod cymunedol newydd sbon wedi’i greu yn St Luke’s Avenue gan Gyngor Bro Morgannwg i grŵp o drigolion Penarth ei ddefnyddio.

Mae aelodau Cymdeithas Trigolion STAR yn byw yn ardal St Luke’s Avenue, St. Paul’s Avenue, St. Peter’s Road a St. James’ Court yn y dre.
Doedd dim trydan na dŵr yn y pod blaenorol, ac roedd wedi dadfeilio, felly roedd angen cyfleuster newydd ar gyfer digwyddiadau a chyfarfodydd cymunedol.
Yn y pod newydd mae cyfleusterau cegin a thŷ bach, felly bydd modd caniatáu cynnal ystod ehangach o weithgareddau, a gobeithio bydd Wi-Fi yn cael ei osod yn fuan, a fydd yn galluogi trigolion lleol i ddefnyddio’r rhyngrwyd.
Roedd y Cynghorwyr Lleol Mike Wilson a Lis Burnett ymhlith y rhai a aeth i’r diwrnod agor y pod, ynghyd â Phennaeth Tai’r Cyngor, Mike Ingram.
“Mae adeiladau fel y rhain yn chwarae rhan allweddol yn y gymuned, gan gynnig lle i drigolion gyfarfod a chynnal digwyddiadau.”
“Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cynnig pod newydd i drigolion lleol, gyda chyfleusterau newydd sbon, ac rwy’n siŵr y bydd cymdeithas y trigolion yn trefnu ystod o weithgareddau’n fuan.” - Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg, y Cynghorydd Lis Burnett.
Gofynnwyd i bobl ifanc helpu i ddylunio murlun ar gyfer y pod a bydd yr ardal o gwmpas yn cael ei dirlunio i wella’i olwg.
Bydd y sesiynau yn y pod yn cynnwys:
“Roedd ein pod blaenorol yn hen iawn a dim ond lle i 12 i 15 o bobl oedd ynddo. Doedd dim pŵer na dŵr felly roedd rhaid i ni ferwi dŵr gartref i wneud te a choffi.
“Mae sinc a microdon yn yr un newydd, ac rydym am gael oergell. Mae’n gallu dal hyd at 30 o bobl ac mae’r plant yn mynd i helpu i’w baentio. Mae’n cymaint gwell ac rydym yn falch iawn.” - Gina Doyle, Cymdeithas Trigolion STAR.