Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 23 Mis Hydref 2019
Bro Morgannwg
Mae’r digwyddiad bellach yn ei bumed flwyddyn, ac mae’n nodi diwrnod o weithredu i annog ysgolion, busnesau ac unigolion i wisgo coch i helpu i godi ymwybyddiaeth am hiliaeth ac i wneud safiad yn ei gwrthwynebu. Gwahoddwyd staff ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus oedd yng nghyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gymryd rhan.
Dywedodd y Cynghorydd Moore: “Rydym yn sefyll yma heddiw oherwydd, yn anffodus mae gwahaniaethu yn digwydd o hyd, er gwaethaf y ffaith bod Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn gwneud gwaith gwych wrth godi ymwybyddiaeth o'r mater hwn. “Fel Cyngor, rydyn ni'n croesawu amrywiaeth, ac mae gwerthoedd fel cydraddoldeb a pharchu eraill yn ganolog i'n hethos. Unwaith eto heddiw, rydym yn addo ein cefnogaeth i'r sefydliad pwysig hwn ac yn mynegi ein diolch am y gwaith a wnânt i fynd i'r afael â'r hyn sy'n broblem hyll. “Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru wedi gweld cynnydd mewn agweddau hiliol a stereoteipio negyddol sy'n digwydd yn y gymdeithas ac hefyd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, felly mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn parhau i fod mor berthnasol ag erioed. Byddwn yn sefyll law yn llaw nes bydd hiliaeth a mathau eraill o wahaniaethu yn cael eu dileu yn ein cymdeithas. ”
Dywedodd y Cynghorydd Moore: “Rydym yn sefyll yma heddiw oherwydd, yn anffodus mae gwahaniaethu yn digwydd o hyd, er gwaethaf y ffaith bod Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn gwneud gwaith gwych wrth godi ymwybyddiaeth o'r mater hwn.
“Fel Cyngor, rydyn ni'n croesawu amrywiaeth, ac mae gwerthoedd fel cydraddoldeb a pharchu eraill yn ganolog i'n hethos. Unwaith eto heddiw, rydym yn addo ein cefnogaeth i'r sefydliad pwysig hwn ac yn mynegi ein diolch am y gwaith a wnânt i fynd i'r afael â'r hyn sy'n broblem hyll.
“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru wedi gweld cynnydd mewn agweddau hiliol a stereoteipio negyddol sy'n digwydd yn y gymdeithas ac hefyd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, felly mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn parhau i fod mor berthnasol ag erioed. Byddwn yn sefyll law yn llaw nes bydd hiliaeth a mathau eraill o wahaniaethu yn cael eu dileu yn ein cymdeithas. ”
Cyngor Bro Morgannwg yw’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i dechrau gweithio gyda’r elusen, gan ariannu eu gweithdai ers 2008. Maen nhw wedi parhau i ddarparu’r sesiynau hyn bob blwyddyn ers hynny. Yn 2017/18 cynhaliodd yr elusen 35 o weithdai mewn 17 o ysgolion y Fro, gan gyrraedd 1235 o ddisgyblion.
Mae adborth am y sesiynau wedi bod yn hynod gadarnhaol, gyda disgyblion ac athrawon yn dweud bod mwy o ddealltwriaeth o hiliaeth yn eu sgil.
Dywedodd un athro o’r Fro: “Mae disgyblion yn fwy hyderus yn defnyddio’r termau cywir ac maen nhw wedi dysgu gwersi gwerthfawr ynghylch stereoteipio a barnu ar sail pryd a gwedd.”