Breuddwyd Olympaidd cydlynydd gweithgareddau Cyngor y Fro
Mae’r rhedwr Sam Gordon ar drywydd breuddwyd Olympaidd ochr yn ochr â’i waith fel Cydlynydd Gweithgareddau gyda thîm datblygu Chwaraeon a Chwarae Cyngor Bro Morgannwg.

Mae’r athletwr 24 oed yn rhannu ei amser rhwng hyfforddi ar y trac rhedeg a threfnu sesiynau chwaraeon ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion y Fro.
Mae wedi ei ddisgrifio fel dyn cyflymaf Cymru, a ganddo e mae’r record 100m cenedlaethol, wedi iddo gwblhau ras mewn 10.08 o eiliadau ym mis Gorffennaf.
Ei obaith nawr yw bod y Cymro cyntaf i redeg y 100m mewn llai na 10 eiliad wrth iddo ymgeisio am le yn nhîm Prydain yn y Gemau Olympaidd Haf nesaf yn Tokyo.
“Byddai rhedeg y ras mewn llai na 10 eiliad yn rhywbeth cwbl newydd, i fi ac i athletau Cymru’n gyffredinol,” dywedodd Sam.
“Byddai’n newid popeth, achos does neb wedi ei wneud e o’r blaen. Gallai drysau newydd agor pe bai rhywun yn cyflawni’r fath beth.”
Mae Sam, sy’n aelod o Glwb Rhedeg Caerdydd, yn treulio rhyw 20 awr yr wythnos yn hyfforddi, ac yn gwneud hynny ochr yn ochr â chyflawni ei ddyletswyddau gyda’r Cyngor.
Mae’n helpu i drefnu nifer o sesiynau chwaraeon ar ôl ysgol, gan gynnwys un yn Ysgol Stanwell, lle bu camerâu Newyddion ITV yn ffilmio wythnos diwethaf i gofnodi ei stori unigryw.
Nod ei swydd fel cydlynydd gyda thîm byw’n iach y Cyngor yw cynyddu’r nifer o blant sy’n gorfforol actif.
Yn rhan o’r rhaglen 5x60/Pobl Ifanc Actif, mae Sam yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i annog plant na fyddai, heblaw am y rhaglenni hyn, yn ymuno efallai â chlybiau ysgol allgyrsiol.
Y tu allan i’w waith bob dydd, cafodd Sam siom y llynedd, pan fethodd gyfle i fod yn rhan o dîm Prydain ym Mhencampwriaethau’r Byd.
Ond dyfal donc amdani, ac mae’n gweithio’n galed i sicrhau y bydd ar yr awyren i Japan ymhen rhyw 10 mis.
“O edrych ar berfformiadau pobl eraill, a ‘mherfformiad i, dros y flwyddyn, ro’n i wedi meddwl y gallwn i gael fy nerbyn ar gyfer tîm y ras gyfnewid ym Mhencampwriaethau’r Byd,” dywedodd Sam.
“Ond nid fel’na y bu, yn anffodus, ac roedd yn brifo achos ro’n i wir eisiau bod yno. Fe gollais ambell ddeigryn, rhaid cyfaddef, achos ro’n i mor agos, ac wedi gweithio mor galed.
“Fe gafodd effaith fawr, do, ac fe ddechreuais holi fy hun a oeddwn i’n gwneud hyn am y rhesymau cywir.
“Ryw 1% bach ychwanegol o ymdrech sydd ei angen i gael lle ar y tîm ar gyfer y Gemau Olympaidd. Ac os caf i le, bydd ambell ddeigryn arall yn siŵr o lifo.”