Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 31 Mis Hydref 2019
Bro Morgannwg
Mae’r arddangosfa’n cynnwys dros 100 o waith celf gwreiddiol ar sawl ffurf, o baentiadau, tecstilau, print, cerfluniau a gwydr. Mae dros 40 o artistiaid CGGC wedi cyfrannu at yr arddangosfa, yn artistiaid proffesiynol a newydd, ac mae llawer ohonynt yn lleol i’r Fro.
“Mae’r sioe yn gyfle gwych i artistiaid lleol a Chymreig i ddangos eu gwaith. “Mae CGGC yn sefydliad elusennol sy’n gweithio tuag at hyrwyddo dealltwriaeth a chydnabyddiaeth y celfyddydau gweledol yng Ngymru. Maent yn aml yn trefnu darlithoedd, casgliadau ac arddangosfeydd yn y DU a thramor ac rydym yn falch iawn bod ein oriel ni’n rhan o’r peth.” - Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant, y Cynghorydd Kathryn McCaffer.
“Mae’r sioe yn gyfle gwych i artistiaid lleol a Chymreig i ddangos eu gwaith.
“Mae CGGC yn sefydliad elusennol sy’n gweithio tuag at hyrwyddo dealltwriaeth a chydnabyddiaeth y celfyddydau gweledol yng Ngymru. Maent yn aml yn trefnu darlithoedd, casgliadau ac arddangosfeydd yn y DU a thramor ac rydym yn falch iawn bod ein oriel ni’n rhan o’r peth.” - Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant, y Cynghorydd Kathryn McCaffer.
Bydd Rydym Ni Hefyd yn Creu Celf ar agor tan dydd Sadwrn 16 Tachwedd, a bydd llawer o waith celf ar werth. Bydd canran o’r elw yn mynd at CGGC. Mae’r oriel yn rhedeg cynllun Casglwyr Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n helpu i wneud gwaith celf yn fforddiadwy i’r cyhoedd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: