Penarth i gael cynllun rhannu beiciau trydan cyhoeddus cyntaf Cymru
Mae Cyngor Mro Morgannwg wedi neilltuo cyllid i dreialu’r cynllun rhannu beiciau trydan llawn cyntaf.
Yn dilyn llwyddiant cynllun llogi beiciau Nextbike yng Nghaerdydd, sydd wedi cofnodi bod beiciau wedi’u rhentu mwy na 548,000 o weithiau ers iddo gael ei lansio yn 2018, mae Cyngor y Fro wedi derbyn ceisiadau am system debyg.
Mewn ymateb i’r ceisiadau hyn, yn ogystal â chydnabod y manteision posibl ar gyfer y gymuned a’r amgylchedd, bydd Nextbike, darparwr cynllun rhannu beiciau blaenllaw y DU, yn gweithredu’r project.
Mae’r sefydliad am osod 50 beic trydan ar sawl gorsaf ym Mhenarth. Tra bo lleoliadau posibl wedi’u nodi, mae’r Cyngor hefyd yn gwahodd preswylwyr i roi eu hawgrymiadau. Mae angen digon o le ar gyfer llwytho a dadlwytho beiciau, yn ogystal â chysylltiadau â ffynonellau pŵer a gwelededd i’r cyhoedd.
Caiff disgyblion ysgolion lleol eu gwahodd i gyflwyno dyluniadau ar gyfer gorsafoedd a phaneli ochr y beiciau, a chaiff mecanigs lleol o’r elusen Pedal Power – sydd eisioes yn gwasanaethu’r cynllun yng Nghaerdydd- yn helpu gydag atgyweirio a chynnal a cadw’r fflyd.
Yn ogystal, mae’r Cyngor yn gweithio’n agos gyda Chyngor Caerdydd i greu system ddidrafferth a fydd yn cysylltu’r ddau gynllun. Bydd hyn yn sicrhau bod aelodau’n gallu teithio rhwng y ddau leoliad a dychwelyd y beiciau iddynt.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth, y Cyng. Peter King:
“Wedi datgan argyfwng hinsawdd ynghynt eleni, mae’n hanfodol ein bod ni, fel Cyngor, yn parhau i gefnogi dulliau teithio gweithredol a chynaliadwy. Mae’r beiciau yn syml eu defnyddio ac mae’r tariffau’n dueddol o fod yn rhatach na theithio mewn car, ar fws neu ar drên.
“Bydd y fenter o fudd i iechyd a lles ein cymudwyr a thrigolion, yn ogystal â bod yn ased i dwristiaeth yn yr ardal. Os bydd hyn yn llwyddiant, rydym yn gobeithio y caiff y cynllun ei ymestyn ymhellach.”
Dywedodd Krysia Solheim, cyfarwyddwr rheoli Nextbike UK, ei bod wedi’i chyffroi ynghylch dod â beiciau trydan i Gymru:
“Gan fod Cyngor Bro Morgannwg yn meddwl mewn dull blaengar, bydd Penarth yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o arwain y chwyldro rhannu beiciau yng Nghymru.
“Rydym yn gwybod o’n hymchwil bod llawer o gymudwyr eisoes yn beicio o Benarth i Gaerdydd. Bydd beiciau trydan yn gwneud y daith honno’n haws ac yn gyflymach nag o’r blaen, a fydd gobeithio yn annog pobl i newid o bedair olwyn i ddwy.
“Mae beiciau trydan nid yn unig yn ffordd o leihau amseroedd teithio a hwyluso beicio ar fryniau serth, maen nhw hefyd yn ffordd wych o gael pobl o bob gallu a lefel ffitrwydd i feicio. Mae’n adeg gyffrous i Benarth.”
Mae’r project Nextbike yn cael ei ariannu gan gyfraniadau trafnidiaeth gynaliadwy Adran 106. Os hoffech fwy o wybodaeth am y cynllun, neu i awgrymu lleoliad, gweler ein tudalen ymgynhoriad.
Ymgynghoriad cynllun nextbike Penarth