Aelod staff cegin Ysgol Gynradd Palmerson sydd wedi gweini am flynyddoedd lawer yn cipio gwobr
MAE cynorthwy-yd cegin Shirley Curnick o ysgol gynradd Palmerston wedi cipio gwobr Cymdeithas Arlwyo yr Awdurdod Lleol, sef Seren Ddisglair ar ôl gweini cinio ysgol am fwy na 40 mlynedd.
Dechreuodd Shirley weithio gyntaf yn ysgol Palmerston yn ôl yn 1979 cyn symud i nifer o ysgolion ledled Bro Morgannwg a’r hen sir De Morgannwg.
Dychwelodd y cogydd hynod brofiadol i Ysgol Palmerston o Ysgol Arbennig Maes Dyfan bum mlynedd yn ôl lle cafodd ei dyrchafu i swydd Cogydd Arweiniol.
“Roeddwn i wrth fy modd yn ennill a bod yn onest. Dysgais i fy mod wedi cael fy enwebu ac wedyn wedi cyrraedd y rhestr fer ac aethon ni i noson wobrwyo’r Fro. Roeddwn i’n mwynhau’r noson ei hun, ond roedd yn arbennig cael y wobr.
“Rwy’n dwlu ar bob munud o’m hamser yn yr ysgol - methu aros i ddod i’r gwaith.
“Mae’n bwysig datblygu perthynas gyfeillgar â’r plant. Rwy’n mwynhau dod i’w nabod, yna byddant yn dod draw a siarad â thi, rhannu straeon am eu diwrnod a beth hoffent ei gael i ginio.
“Rwy’n 71 nawr a dydw i ddim yn bwriadu ymddeol. Byddwn yn dal ati i weithio cyn hired ag y galla’ i achos fy mod i wrth fy modd.”

Am y dros bedwar degawd o gyflogaeth, mae Shirley wedi cymryd gwyliau un diwrnod yn unig i weld graddio ei hwyres, ac mae hi wedi colli dim ond pum diwrnod oherwydd salwch.
Yr hirhoedledd anhygoel hwn, ynghyd â’r ymrwymiad a gofal i’r disgyblion mae hi’n gofalu amdanynt oedd y rheswm iddi hawlio’r wobr seren Ddisglair y CAALl yn rhanbarth Cymru yn ystod seremoni yng ngwesty’r Vale.
Mae Shirley yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn adnabod enwau’r holl ddisgyblion, eu hoffterau ac anhoffterau, eu hanghenion deietegol, ac mae’n cymryd rhan yng ngweithgareddau eraill yr ysgol yn rheolaidd, gan gynnwys taith i wylio The Lion King yn Llundain.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio: “Mae ymroddiad Shirley i’w disgyblion yn amlwg yn ogystal â’r ffaith bod ei dylanwad yn lledaenu y tu hwnt i’r gegin.
“Hoffwn longyfarch Shirley ar ei gwobr hollol haeddiannol a’i chyflawniad anhygoel am y 40 mlynedd o wasanaeth i blant yn y Fro.”
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dathlu dwy wobr arall hefyd, yn ystod noson wobrwyo CAALl wrth i’r rheolwr arlwyo Carole Tyley gael y wobr Seren Newydd am arlwyo ym maes Addysg Cymru.
Cafodd menter cynnyrch lleol yr awdurdod lleol ganmoliaeth hefyd fel un flaengar ac arloesol am gynnwys rhagor o gyflenwyr a chynhyrchwyr lleol ar fwydlenni ysgol.