Dau athro’r Fro wedi eu henwebu am wobrau cenedlaethol.
Datgelwyd bod dau athro o Fro Morgannwg wedi cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru, a gynhelir gan Addysg Cymru.
Roedd Leanne Pownall o Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr, a Hannah Cogbill o Ysgol Gynradd Tregatwg ymysg y cannoedd a enwebwyd gan ddisgyblion, cydweithwyr a rhieni ledled Cymru.
Maen nhw ar restr fer o 29 o weithwyr addysg proffesiynol Cymru mewn deg categori.
Mae Leanne Pownall yn un o dri sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol am y wobr ‘Hybu Cydweithio i Wella Cyfleoedd Dysgu’. Mae’r wobr yn cydnabod y rheiny sydd wedi gwella cyfleoedd disgyblion drwy annog cydweithio rhyngsefydliadol – boed hynny mewn ysgolion, ysgol/coleg neu â phartneriaid arweiniol eraill.
Dywedodd Pennaeth Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr, Fiona Greville: “Mae Leanne yn ymarferydd rhagorol sy’n arwain ar gydweithio a gwella cyfleoedd dysgu ar gyfer disgyblion Llanilltud Fawr.
Mae’n dangos beth yw cydweithio yn effeithiol ar lefel disgyblion a staff, gan greu amgylchedd effeithlon ac adeiladol yn yr ysgol, drwy annog pawb i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw.
Mae hi hefyd yn gweithio gyda’n partneriaid o’r Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau bod disgyblion staff milwrol yn cael cymorth yn enwedig os yw symud ac adleoli yn effeithio arnyn nhw.”
Hannah Cogbill yw un o’r tri a enwebwyd ar gyfer y wobr ‘Athro Newydd Rhagorol’. Mae’r wobr hon yn arbennig ar gyfer athrawon sydd yn eu hail neu drydedd flwyddyn o ddysgu. Mae’n dathlu unigolion sydd wedi
dangos agwedd unigryw ac arloesol tuag at addysgu, ac sy’n gallu cefnogi disgyblion yn gadarnhaol a chyrraedd deilliannau rhagorol.
Dywedodd Janet Haywrd, Pennaeth Ysgol Gynradd Tregatwg: “Rydym ni’n hynod falch o gael Hannah yn rhan o’n tîm yn Ysgol Tregatwg.
"Mae hi’n wir roi golau disglair i’n disgyblion, staff a rhieni. Roeddem yn hynod falch o glywed ei bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr, ac mae’n gwbl haeddiannol.”
Mae Ysgol Gynradd Tregatwg hefyd yn cystadlu am y wobr Hybu Llesiant, Cynhwysiant a/neu Perthnasau â’r Gymuned.
Cyhoeddir yr enillydd mewn seremoni arbennig yn Neuadd Soughton yn Sir y Fflint, ddydd Sul 19 Mai. I gael gwybod pwy fydd yr enillydd, gwyliwch yn fyw ar Facebook yn https://www.facebook.com/addysgcymru/?fref=tag, ewch i llyw.cymru/gwobrau-addysgu-proffesiynol-Cymru, neu cadwch olwg ar gyfryngau cymdeithasol Addysg Cymru @LlC_Addysg