Grŵp JEHU i gynnal diwrnod agored ar ddatblygiad tai Cyngor Bro Morgannwg
Cynhaliwyd diwrnod agored ar ddatblygiad tai Cyngor Bro Morgannwg yn Brecon Court yn y Barri gan Grŵp Jehu, sydd yn gyfrifol am y project.
Mynychodd Aelodau Ward Gibbonsdown, Julie Avet a Margaret Wilkinson ynghyd â chynrychiolwyr o Jehu.
Y nod oedd i ateb unrhyw gwestiynau gan breswylwyr ynghylch y cynllun £3.5 miliwn i gynyddu stoc tai y Cyngor.
Mae Jehu yn y broses o godi 28 o gartrefi newydd pwrpasol i ateb galw lleol.
Wedi’u lleoli ar safle’r hen lety gwarchod, bydd y cynllun yn cynnwys naw tŷ â dwy ystafell wely, pedwar cartref â thair ystafell wely a 15 fflat ag un ystafell wely sy’n cael eu cadw ar gyfer pobl hŷn.
Bydd yr holl gartrefi newydd, sy’n cael eu hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, yn cael eu hadeiladu i gyrraedd ei safonau ar gyfer tai cymdeithasol, gan roi llety i’r bobl yn y gymuned sydd â’r angen mwyaf amdano.

Dywedodd Miles Punter, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Gwasanaethau Tai Cyngor Bro Morgannwg: “Mae’r datblygiad hwn yn rhan o gynlluniau ehangach y Cyngor i gynyddu ei stoc dai a bodloni’r galw mawr yn lleol am lety o’r math hwn.
“Cafodd y cynigion ar gyfer y safle eu drafftio ar ôl ymgynghori’n eang â phartïon lleol oedd â diddordeb, a dylai fod o fudd go iawn i’r gymuned.
“Gall yr ystod o wahanol eiddo sy’n cael eu codi roi lleoedd cysurus i deuluoedd, i barau ac i breswylwyr hŷn fyw ynddynt.
“Bydd y cynllun hefyd yn ailddefnyddio safle segur i ddarparu swyddogaeth bwysig yn yr ardal.”
Dwedodd Geraint Thomas, Rheolwr Safle Jehu ar ddatblygiad Brecon Court: “Roedd yn braf cael cwrdd a’r preswylwyr lleol yn y digwyddiad agored yr wythnos hon, rydym am fod yn rhan o’r gymuned hon am rai misoedd.
Rydym o’r farn mai’r ffordd orau o gadw’r safle a’r cyffiniau i symud yn hwylus yw i weithio gyda’r gymuned, yn y modd hwn gallwn darfu cyn lleied ag sydd ei angen.”