Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 01 Mis Mai 2019
Bro Morgannwg
Mae gan breswylwyr hyd at ddydd Mawrth 07 Mai i gofrestru i bleidleisio os nad ydynt eisoes ar y Gofrestr Etholwyr. Y dyddiad cau i wneud cais ar gyfer pleidlais drwy'r post yw dydd Mercher 08 Mai (5.00pm) ac ar gyfer pleidleisiau drwy ddirprwy dydd Mercher 15 Mai (5.00pm).
Dywedodd Debbie Marles, y Swyddog Canlyniadau Lleol: “Mae’n hollbwysig bod pobl yn cael y cyfle i gymryd rhan yn yr etholiad hwn, ac yn osgoi colli allan oherwydd nad ydynt wedi cofrestru. Mae ein Tîm Gwasanaethau Etholiadol profiadol ar gael i ddarparu cyngor a gwybodaeth i bleidleiswyr. “Ni ddylai pobl gymryd arnynt y gallent bleidleisio oherwydd eu bod wedi cofrestru i bethau eraill megis Treth y Cyngor. Os oes amheuaeth, dylai preswylwyr gysylltu â’n Tîm Gwasanaethau Etholiadol i wirio a ydynt wedi cofrestru i bleidleisio.”
Dywedodd Debbie Marles, y Swyddog Canlyniadau Lleol: “Mae’n hollbwysig bod pobl yn cael y cyfle i gymryd rhan yn yr etholiad hwn, ac yn osgoi colli allan oherwydd nad ydynt wedi cofrestru. Mae ein Tîm Gwasanaethau Etholiadol profiadol ar gael i ddarparu cyngor a gwybodaeth i bleidleiswyr.
“Ni ddylai pobl gymryd arnynt y gallent bleidleisio oherwydd eu bod wedi cofrestru i bethau eraill megis Treth y Cyngor. Os oes amheuaeth, dylai preswylwyr gysylltu â’n Tîm Gwasanaethau Etholiadol i wirio a ydynt wedi cofrestru i bleidleisio.”
Dim ond ychydig o funudau y mae'n cymryd: cofrestrwch ar-lein https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu ffoniwch y Tîm Gwasanaethau Etholiadol ar 01446 729552.
Mae rhestr lawn o ymgeiswyr ar gael ar wefan Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol Cymru: https://www.sir-benfro.gov.uk/etholiadau-senedd-ewrop