Disgyblion St Andras yn Taro Tant!
Cymerodd disgyblion Ysgol Gynradd Saint Andras ran mewn cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant ochr yn ochr â grŵp offerynnau taro byd-enwog.

Bu disgyblion blwyddyn 5 yn chwarae gyda’r pedwarawd o Efrog Newydd, Sandbox Percussion, gan ddefnyddio amrywiaeth o offerynnau anghonfensiynol, gan gynnwys potiau planhigion, marimbâu, gwydrau gwin a ‘rooks’- offeryn electronig sy’n defnyddio synwyryddion isgoch i ddehongli symudiadau’r llaw.
Roedd y perfformiad arbennig hwn a guradwyd yn arbennig yn rhan o ddathliadau Hanner Canmlwyddiant Gŵyl Bro Morgannwg.
Talodd yr ŵyl sylw arbennig i gerddoriaeth newydd a chyfansoddwyr byw, gyda’r nod o gyflwyno disgyblion Cyfnod Allweddol 2 i ‘fyd sain o fath newydd’.
Cyflynwyd y digwyddiad gan y cyfansoddwr a’r animateur ar addysg gerddorol, Helen Woods.
Perfformiodd y plant ganeuon a gyfansoddwyd ganddynt eu hunain mewn gweithdy a gynhaliwyd yn gynharach yn ystod y mis gan Helen a myfyrwyr o Goleg Brenhinol Celf a Drama Cymru.
Dywedodd Y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod y Cabinet dros Adfywio ac Addysg: “Roedd hwn yn gyfle unigryw i ddisgyblion y Fro gael cyfrannu at y celfyddydau a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Rydym ni’n gobeithio y byddwn yn gweld rhagor o fentrau fel hyn yn y dyfodol.”
Cynhaliwyd y gweithdy a’r cyngerdd mewn partneriaeth gydag Actifyddion Artistig, gyda chymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Gwasanaethau Datblygu’r Celfyddydau Cyngor Bro Morgannwg, a Tŷ Cerdd.