Cyfleuster Dysgu Awyr Agored newydd ym Mharc Gwledig Llynnoedd Cosmeston
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi derbyn cyllid grant i greu cyfleuster dysgu amlbwrpas unigryw ym Mharc Gwledig Llynnoedd Cosmeston.
Dyfarnwyd y grant gan Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, gyda’r nod o ddarparu mynediad diogel i’r amgylchedd naturiol a helpu i ddatblygu sgiliau dysgu yn yr awyr agored.
Roedd y project yn cynnwys mannau i adeiladu den, chwilota mewn pyllau a hela trychfilod a chynefinoedd newydd yn cael eu creu. Mae seddi newydd a gasibo pren hefyd wedi eu gosod.
Mae gwaith tirweddu gan Landcraft Projects Ltd wedi sicrhau bod y safle’n hygyrch i bobl o bob gallu.
Yn sgil y cyllid, crëwyd hefyd gerflun ar thema natur, gydag adar, mamaliaid a physgod y cynefin yn rhan ohono. Arweiniwyd y dyluniad gan ddosbarth o Ysgol Oakfield yn y Barri, ac fe’i cerfluniwyd gan yr artist o Gymru, Chris Wood, o Wood Art Works.
Dywedodd y Cyng. Lis Burnett, Aelod y Cabinet dros Adfywio ac Addysg: “Rydyn ni mor falch o fod wedi sicrhau cyllid ar gyfer y project gwych hwn ar gyfer pobl ifanc y Fro.
“Bydd y cyfleuster yn rhoi cyfle gwerthfawr iddyn nhw ddysgu am yr amgylchedd lleol a byd natur.”
Agorwyd cyfleuster yn swyddogol ar ddydd Iau, 23 Mai.
