Ein rheswm dros gefnogi Awr Ddaear
Mae ein byd dan fygythiad yn fwy nag erioed. Rydym yn dinistrio coedwigoedd, tagu’r moroedd gyda phlastig, degymu meintiau poblogaeth bywyd gwyllt ac yn achosi newidiadau dinistriol i’r hinsawdd. Ni yw’r genhedlaeth gyntaf i wybod ein bod yn dinistrio’r byd. A gallen ni fod y genhedlaeth olaf a all wneud unrhyw beth amdano. Rhaid i ni weithredu nawr i wrthdroi’r difrod ac adfer natur. Mae gennym yr atebion, ond nawr mae angen i’n lleisiau gael eu clywed.
Mae Awr Ddaear yn hanfodol am y rheswm hwnnw – mae’n rhoi llais grymus i bobl ymhobman sydd am i’r byd ddechrau gwella. Yn y DU, bob blwyddyn, mae miliynau ohonom yn cymryd rhan yn Awr Ddaear. Trwy addo i helpu ein planed, a thrwy fod yn rhan o ymgyrch sy’n cynnwys miliynau o bobl o bedwar ban y byd, gallwn ni ddangos ein bod yn brwydro dros ein byd.