Yn cyflwyno Aelod Cabinet newydd Cyngor Bro Morgannwg a chanddo gefndir lliwgar
Mae wedi gweithio ar reilffordd ager, yn y theatr, gyda’r Cardiff Devils ac fel dryswr – nawr rôl newydd Ben Gray yw Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Cydiodd y dyn 35 oed yn awenau’r rôl yn ddiweddar yn lle Gordon Kemp ar ôl i Arweinydd y Cyngor, John Thomas, ddewis adfywio tîm penderfynu’r Awdurdod.
Wedi’i ethol yn 2017, mae Ben yn cynrychioli ward Plymouth ym Mhenarth lle mae’n byw. Yn wir, bu’n cystadlu yn erbyn ei gymydog drws nesaf ddwy flynedd yn ôl gan fod yr ymgeisydd Llafur, Angela Thomas, yn byw yn union dros ffens yr ardd.
Un nodwedd hynod yn unig yw honno mewn stori gefndir ddiddorol sy’n cynnwys y cyn-arlywydd UMC Cymru yn ymsefydlu’n gadarn yn y maes gwleidyddiaeth lleol ar ôl cyfnodau lle mae wedi ymhél ag amrywiaeth o ddiddordebau eraill.
“Mae ymgyrchu yn erbyn eich cymydog drws nesaf ychydig yn rhyfedd. Mae hi wedi rhoi posteri ohon
i hi yn ei ffenestri hi a dwi wedi rhoi fy mhosteri i yn fy rhai i,” gwena Ben. “Mae hi’n tueddu i ofalu am fy mharseli, felly rydyn ni’n cael sgwrs pan dwi’n eu cymryd oddi arni.
“Mae pethau’n hollol gyfeillgar rhyngon ni a dyna sut ydw i gyda phob peth. Rwy’n cyd-dynnu’n dda â phawb, ond nid yw hynny’n fy atal rhag siarad dros y pethau dwi’n credu ynddynt.”
Ac yntau’n hanu’n wreiddiol o Basingstoke, symudodd Ben i Gymru i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dechreuodd ymwneud ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, ac aeth ymlaen i arwain y sefydliad yng Nghymru a dyna wnaeth ei ysgogi i symud i’r rhan hon o’r wlad.
Bu’n gweithio am gyfnod wedyn i Brifysgol Cymru, yna newidiodd gyfeiriad a daeth yn gadeirydd Rheilffordd Fforest y Ddena, atyniad â threnau ager ddim yn bell o Gaerloyw.
“Tra oeddwn ym Mhrifysgol Cymru, dechreuais wir
foddoli ar y rheilffordd. Dros bedair blynedd roeddwn yn cymryd rôl fwyfwy sylweddol yn yr hyn oedd yn digwydd yno. Bues i’n gweithio fel gard. Roeddwn yn gweithio ar y trên ac ar y traciau,” meddai.
“Yna dechreuais ymwneud â’r gymdeithas oedd yn rheoli’r rheilffordd ac yn y pen draw â bwrdd y cwmni.
“Yn union cyn i fi adael Prifysgol Cymru, ces i fy ethol yn gadeirydd y bwrdd a’m penodi’n rheolwr projectau
ac yn rheolwr cyffredinol y rheilffordd.
“Roedd gan fy mam-gu a’m tad-cu fyngalo o fewn clyw rheilffordd yn Hampshire, sef y Watercress Line.
“Bydden i yn yr ardd pan oeddwn yn bump neu’n chwech oed ac yn clywed yr injans ager mawr yn hwtian, yn seinio eu chwibanau ac o 12 oed ymlaen, roeddwn yn gwirfoddoli ar yr ochr arlwyo.”
Ar ôl ychydig flynyddoedd yn y swydd honno, aeth Ben i gyfeiriad arall eto.
Gyda chefndir ei deulu yn y theatr – bu ei dad-cu’n ymddangos mewn rhaglenni teledu fel Dad’s Army, ac roedd enw ei fam cyn priodi, sef Honri, yn uchel ei fri yn neuaddau cerdd yr oes a fu – rhoddodd Ben ei MA mewn Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau ar waith, gan weithio ar gynyrchiadau megis Tiger Bay yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Mae’n gweithredu fel canolwr i ddod o hyd i ffordd ymarferol i wireddu syniadau ac effeithiau creadigol sydd ym meddwl cyfarwyddwr.
Arweiniodd hynny iddo fod yn rhan o brofiad diwrnodau gemau’r Cardiff Devils, gan helpu i gydlynu’r adloniant pan oeddent yn Arena Caerdydd, a adwaenir fel y Babell Las Fawr.
Ond mewn cyfnod a oedd efallai hyd yn oed yn fwy cyffrous, bu’r Cynghorydd i Dref Penarth a’r cyn-ymgeisydd dros Gynulliad Cymru yn gweithio fel dryswr mewn lleoliad nos.
“Fel rhan o’m hyfforddiant, fe wnes i gwblhau cymhwyster mewn datrys anghydfodau, sy’n esbonio sut i dawelu sefyllfa ddwys a sut i’w hatal rhag gwaethygu. Mae’n rhywbeth dwi’n ei ddefnyddio bob dydd,” meddai Ben.“Roedd fy ngwraig yn arfer bod yn rheolwr cynorthwyol yn y Beverley ar Heol y Gadeirlan, felly gwnes i gwpl o gemau rygbi rhyngwladol yno ac roeddwn yn gweithio draw ym Mryste ar bethau fel partïon Nadolig.
“Yn Aberystwyth roeddwn yn gweithio ar y drysau yn y dref ac yn cael rhai profiadau eitha’ annymunol. Y peth mwyaf ffiaidd a ddigwyddodd oedd i mi gwympo ar y llawr gyda rhywun yn poeri yn fy llygad.
“Roeddwn yn trio gafael ynddo tra oedd y teulu cyfan yn ymosod arna i. Roedd pedwar neu bum aelod o’r teulu yn ymosod arna i ac roedd dryswr arall yn trio fy nghyrraedd.
“Mi wnes i wasgu fy motwm panig a daeth 15 neu 16 o ddryswyr o bob rhan o’r dref yn rhedeg i helpu ond roedd y tair munud y cymerodd i hynny ddigwydd yn eitha’ dychrynllyd.”
Wedi cwblhau amrywiaeth eclectig o heriau yn y gorffennol, mae sylw Ben bellach ar ei bortffolio newydd, sef Iechyd a Gofal Cymdeithasol.Mae hynny hefyd yn cynnwys meysydd amrywiol, gan gynnwys pob agwedd ar y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ogystal â phethau fel rheoli canolfannau cymunedol a hamdden.
“Pan oeddwn yn fyfyriwr, cymerais ran mewn gwleidyddiaeth
. Nid newid y byd oedd fy nod. Ces i fy ysbrydoli i edrych ar y pethau gallen i eu newid a gweithio tuag at hynny,” ychwanegodd.
“Mae rhan helaeth o’m gwleidyddiaeth i’n ymwneud â chyd-gynhyrchu, cyd-greu. Mae gennych fuddiant yn yr hyn rydych yn ei wneud. Cyfrifoldeb pawb yw dod i’r bwrdd a bod yn rhan o hynny. Nid fy ngwaith i yw darparu popeth i bobl. Mae gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus yn ymwneud â phobl yn dod ynghyd i ddatrys problemau.
“Ar wahân i addysgu ein plant, rwy’n meddwl mai iechyd a gofal cymdeithasol yw’r peth pwysicaf mae’r Cyngor yn ei wneud.
“Efallai bod nifer y bobl sy’n ymwneud â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn llai, ond i’r rhai sydd mewn cysylltiad â nhw, mae’n rhaid i’r gwasanaeth a’r cymorth maen nhw’n eu derbyn fod o’r safon uchaf.
“Ochr arall y brîff yw hamdden. Dwi am sicrhau bod pob un o’r 130,000 o breswylwyr y Fro yn gwybod am ein gwasanaethau hamdden.
“Mae angen i ni ddatblygu cyfleusterau y mae pobl yn ymfalchïo ynddynt ac eisiau eu defnyddio.”