Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 04 Mis Mawrth 2019
Bro Morgannwg
Mae'r llythyr yn nodi barn y Cyngor na ellir gwireddu cyfyngiadau cyflymder 20mya oni bai bod Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd ac yn gosod ymagwedd Cymru gyfan.
Er y cydnabyddir bod cyflymder traffig yn cyfrannu’n fawr at ddifrifoldeb gwrthdrawiadau traffig ffordd, cyfyngedig yw’r dystiolaeth hyd yn hyn o ran unrhyw effaith sylweddol ar wrthdrawiadau neu anafiadau traffig ffordd gan gyfyngiadau 20MYA.
Dywedodd y Cyng. Cox, “Gallaf weld manteision posibl cyfyngiadau cyflymder 20MYA ar gyfer problemau penodol sy’n ymwneud â chyflymder traffig. Rwy’n cydnabod bod nifer o grwpiau lleol a chenedlaethol sy’n pledio cyflwyno cyfyngiadau o’r fath ar raddfa sylweddol ledled Bro Morgannwg, nifer ohonynt rydw i wedi cyfarfod â nhw’n bersonol, ond rwyf hefyd yn ymwybodol bod nifer o drigolion yn y Fro sydd yn erbyn y syniad. Mae newid y cyflymderau mewn llawer o ardaloedd yn y Fro o 30MYA i 20MYA, fel sy’n cael ei awgrymu gan rai grwpiau, yn cynrychioli penderfyniad mawr i’r Cyngor hwn ac rwy’n teimlo bod angen mewnbwn ac arweiniad ein Llywodraeth Genedlaethol o ran y penderfyniad hwn; oherwydd diffyg tystiolaeth sydd ar gael o’u llwyddiant hyd yn hyn, gwahaniaeth barn ymhlith ein trigolion, cost eu cyflwyno, y amcangyfrifir y bydd yn £700k ar gyfer y Cyngor hwn, a’r ffaith mai mater Cymru gyfan neu hyd yn oed mater y DG gyfan yw hwn.”
Dywedodd y Cyng. Cox, “Gallaf weld manteision posibl cyfyngiadau cyflymder 20MYA ar gyfer problemau penodol sy’n ymwneud â chyflymder traffig. Rwy’n cydnabod bod nifer o grwpiau lleol a chenedlaethol sy’n pledio cyflwyno cyfyngiadau o’r fath ar raddfa sylweddol ledled Bro Morgannwg, nifer ohonynt rydw i wedi cyfarfod â nhw’n bersonol, ond rwyf hefyd yn ymwybodol bod nifer o drigolion yn y Fro sydd yn erbyn y syniad.
Mae newid y cyflymderau mewn llawer o ardaloedd yn y Fro o 30MYA i 20MYA, fel sy’n cael ei awgrymu gan rai grwpiau, yn cynrychioli penderfyniad mawr i’r Cyngor hwn ac rwy’n teimlo bod angen mewnbwn ac arweiniad ein Llywodraeth Genedlaethol o ran y penderfyniad hwn; oherwydd diffyg tystiolaeth sydd ar gael o’u llwyddiant hyd yn hyn, gwahaniaeth barn ymhlith ein trigolion, cost eu cyflwyno, y amcangyfrifir y bydd yn £700k ar gyfer y Cyngor hwn, a’r ffaith mai mater Cymru gyfan neu hyd yn oed mater y DG gyfan yw hwn.”
Mae nifer o barthau 20mya ym Mro Morgannwg, y rhoddwyd y rhan fwyaf ohonynt ar waith fel rhan o fenter i greu llwybrau diogelach i ysgolion.