Cost of Living Support Icon

 

Cyhoeddi cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer dau gampws coleg newydd yn y Fro

Mae Cyngor Bro Morgannwg a Choleg Caerdydd a’r Fro yn gweithio ar gynigion uchelgeisiol ar gyfer dau ddatblygiad campws coleg newydd werth miliynau o bunnoedd.

 

  • Dydd Iau, 14 Mis Mawrth 2019

    Bro Morgannwg



Wythnos nesaf, bydd cabinet y Cyngor yn ystyried gwerthu dau ddarn o dir i’r coleg. Un yn yr Ardal Arloesi yng Nglannau’r Barri a’r llall ar dir ger Maes Awyr Caerdydd yn Y Rhws.       

 

Waterfront1

Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, Yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio: 

 

“Er bod y trafodaethau megis dechrau ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn awyddus iawn i helpu Coleg Caerdydd a’r Fro i wireddu ei weledigaeth o gyflawni dau gampws coleg penigamp newydd yn y Fro.  

 

“Mae’r safleoedd yr ydym wedi’u hadnabod yn llawn potensial. Mae’n debyg mai Glannau’r Barri yw’r project adfywio trefol mwyaf arloesol yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae’n cynnig cyfleoedd hamdden o safon, safleoedd manwerthu a chysylltiadau trafnidiaeth, ynghyd â chymysgedd o dai. Byddai campws addysg uwch blaengar i’r sector yn ddatblygiad cyffrous arall.  

 

“Yn yr un modd, byddai datblygu’r ail safle ger Maes Awyr Caerdydd yn gam cynnar cyffrous o ran datblygu’r ardal sy’n gyrru datblygiad economaidd yn y Fro yn y dyfodol agos.” 

 

Dywedodd Mark Roberts, Prif Swyddog Gweithredol Coleg Caerdydd a’r Fro:

 

“Yn CCF mae gennym raglen uchelgeisiol o fuddsoddi i gyflawni cyfleoedd arloesol a chyfleusterau dysgu i Gaerdydd a’r Fro fydd yn ysbrydoliaeth i genedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol. Byddai’r cynlluniau’n hwb mawr i’r Coleg, sydd yn y trydydd safle o ran colegau mwyaf y DU. 

 

“Mae gan CCF ymrwymiad hirsefydlog i’r Fro ac rydym yn awyddus i ddiweddaru’n cyfleusterau a’n cynnig. Mae’r cynnig hwn yn cynnwys dau gampws newydd sbon: un yng Nglannau’r Barri fydd yn cynnig ystod eang o gyrsiau galwedigaethol ac addysg bellach, a champws gwneuthuriad uwch ac awyrofod ym Maes Awyr Caerdydd gyda chanolfan STEM a chyrsiau TG  a Seiber-Ddiogelwch. 

 

“Byddai hefyd yn cynrychioli cam mawr ymlaen i’n partneriaid a’n cyflogwyr a busnesau, gan y bydd yn cynnig sgiliau proffesiynol a lefel uwch yn y safle canolfan gynhyrchu uwch ym Maes Awyr Caerdydd, sydd hefyd â sgôp i ymestyn ein gwaith ymhellach ym Mro Morgannwg.”

Bydd y ddau gynllun yn dibynnu ar Goleg Caerdydd a’r Fro yn cadarnhau cyllid, caniatâd statudol a byddai unrhyw ddatblygiad o’r Ardal Arloesi yn dibynnu ar ganiatâd Llywodraeth Cymru.