Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 14 Mis Mawrth 2019
Bro Morgannwg
Mae Neuadd Gymunedol Treoes wedi cael ei hadnewyddu’n llwyr gyda charpedi, drysau tân, bleinds a chelfi newydd ar ôl i’r pwyllgor rheoli dderbyn grant gwerth £5,839.
Meddai llefarydd dros y grŵp, “Roedd yr adborth gan aelodau hŷn y gymuned, yn arbennig y grŵp Young at Heart, yn dangos eu bod wrth eu boddau ar gael cadeiriau theatr modern cyfforddus i eistedd arnynt yn hytrach na’r hen gadeiriau bwced plastig.”
Mae Neuadd Gymuned y Rhws, Eglwys yr Holl Saint, Canolfan Gymunedol Castleland, Neuadd Bentref Llansanwyr, Neuadd Bentref Aberogwr, Festri Saron a Neuadd Bentref Gwenfô oll wedi elwa ar Gronfa Grantiau Cymunedau Cryfach.
Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd y Cyngor, “Mae grwpiau lleol a’r gwirfoddolwyr sy’n eu cefnogi yn hanfodol i’n cymunedau. “Ym mis Awst 2017 neilltuodd y Cyngor £670,000 i gefnogi sefydliadau a arweinir gan gymunedau trwy Gronfa Grantiau Cymunedau Cryfach. Ers hynny rydym wedi derbyn dros 200 o ymholiadau gan y 3ydd sector ac wedi ariannu 34 o brojectau ym Mro Morgannwg. “Sefydlwyd y gronfa er mwyn lleihau dibyniaeth y fath grwpiau ar grantiau a datblygu mentrau a chyfleusterau cymunedol arloesol ar hyd a lled Bro Morgannwg. “Mae’r buddsoddiad mewn lleoliadau megis Neuadd Gymuned Treoes a’r buddion sy’n dilyn hynny yn dangos ein bod yn cyflawni’r nod hwnnw.”
Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd y Cyngor, “Mae grwpiau lleol a’r gwirfoddolwyr sy’n eu cefnogi yn hanfodol i’n cymunedau.
“Ym mis Awst 2017 neilltuodd y Cyngor £670,000 i gefnogi sefydliadau a arweinir gan gymunedau trwy Gronfa Grantiau Cymunedau Cryfach. Ers hynny rydym wedi derbyn dros 200 o ymholiadau gan y 3ydd sector ac wedi ariannu 34 o brojectau ym Mro Morgannwg.
“Sefydlwyd y gronfa er mwyn lleihau dibyniaeth y fath grwpiau ar grantiau a datblygu mentrau a chyfleusterau cymunedol arloesol ar hyd a lled Bro Morgannwg.
“Mae’r buddsoddiad mewn lleoliadau megis Neuadd Gymuned Treoes a’r buddion sy’n dilyn hynny yn dangos ein bod yn cyflawni’r nod hwnnw.”
Gellir gofyn am fwy o wybodaeth am y gronfa a ffurflen gais i ariannu project gan Dîm Datblygu Economaidd y Cyngor trwy e-bostio scgfapplications@valeofglamorgan.gov.uk neu ffonio 01446 704636.