Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn nodi Wythnos y Lluoedd Arfog

Ymgasglodd cynrychiolwyr o’r fyddin, Cyngor Bro Morgannwg a’r Cynulliad Cenedlaethol y tu allan i’r Swyddfeydd Dinesig ar gyfer seremoni codi’r faner i nodi Wythnos y Lluoedd Arfog.

  • Dydd Llun, 24 Mis Mehefin 2019

    Bro Morgannwg



Ymysg y sawl a oedd yn bresennol roedd Maer Bro Morgannwg, Arweinydd y Cyngor, Neil Moore, y Dirprwy Arweinydd, Lis Burnett, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Eddie Williams, Vaughan Gething AC, Jane Hutt AC, Andrew RT Davies AC, y Cynghorydd Margaret Wilkinson, cynrychiolydd Cyngor Tref y Barri, ac Angela Thomas o Gyngor Tref Penarth.

Armed Forces photo

Mynychodd y Capten Oliver Richards a’r arweinydd sgwadron Hefyn Jones o RAF Sain Tathan, David Green o’r Lleng Brydeinig Frenhinol, ac hefyd cynrychiolwyr o’r Llynges Fasnachol. Roedd nifer o gyn-filwyr y lluoedd arfog hefyd yn bresennol. 

 

Am 10yb, gorymdeithiodd Gosgordd Anrhydedd yr RAF i gwrt blaen yr adeilad ar Heol Holltwn cyn i’r Cynghorydd Christine Cave, Maer Cyngor Bro Morgannwg, gyflwyno araith a ddilynwyd gan weddi gan y Cyd-faer, Alan Cave.

 

Yna cododd criw’r RAF y faner cyn i’r dorf ganu anthem genedlaethol Cymru ac anthem genedlaethol Prydain.

 

Armed Forces flags (1)

Dywedodd y Cynghorydd Williams: “Fel Cyngor, rydym yn falch o godi Baner y Lluoedd Arfog i ddangos ein cefnogaeth i bawb sydd wedi gwasanaethu yn y fyddin, ddoe a heddiw.

 

“Mae’n mynd heb ddweud fod yr unigolion hyn yn gwneud gwaith anodd a pheryglus yn aml dros eu gwlad, ac maent yn haeddu ein diolch am yr ymdrech honno.”