Cost of Living Support Icon

 

Cydnabod athro amlieithog gyda gwobr fri 

Mae athrawes iaith o Lantriddyd ym Mro Morgannwg, sy’n siarad pedair iaith, wedi ennill Gwobr Trwyddedai La Jolie Ronde y Flwyddyn.

  • Dydd Mercher, 19 Mis Mehefin 2019

    Bro Morgannwg



Mae Sian-Elin Jones yn addysgu dosbarthiadau Ffrangeg allgyrsiol i blant lleol mewn tair Ysgol Gymraeg yn y Fro - Ysgol Iolo Morgannwg yn y Bont-faen ac Ysgol Sant Curig ac Ysgol Gwaun y Nant yn y Barri – drwy’r rhaglenni La Jolie Ronde penigamp.

 

Cyflwynwyd y wobr i Sian-Elin, neu Madame Sian El i’w disgyblion, yng Nghynhadledd Flynyddol La Jolie Ronde ym Mryste. Mae’r rhaglen hon yn galluogi’r gwaith o addysgu ieithoedd tramor drwy’r iaith darged, gan ei galluogi i addysgu Ffrangeg drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Sian-Elin Jones with some of her French pupils from Ysgol Ssnt Curig, Barry

Ar ôl derbyn y wobr, dywedodd Sian-Elin: “Mae’r wobr hon yn anrhydedd ac wedi fy synnu’n arw. Rydw i wrth fy modd yn addysgu ieithoedd ac yn gyffredinol mae plant wrth eu bodd yn eu dysgu nhw... Byddaf yn parhau i drosglwyddo fy mrwdfrydedd dros ieithoedd a gwahanol ddiwylliannau i’r genhedlaeth iau.”

 

Mae hon yn flwyddyn o ddathlu i Sian-Elin gan fod 2019 yn nodi pum mlynedd lwyddiannus ers iddi ddechrau rhedeg ei busnes. Yn 2013 ymunodd â rhwydwaith athrawon La Jolie Ronde, gan sefydlu ei busnes ei hun yn addysgu Ffrangeg yn ystod amser cinio ac ar ôl ysgol. Mae hi bellach yn addysgu mwy na 90 o ddisgyblion ledled y Fro.

 

Cyflwynwyd y Wobr i Sian-Elin gan sefydlydd La Jolie Ronde Colette Hallam.

 

2nd photo of Sian-Elin Jones with some of her French pupils from Ysgol Iolo Morganwg

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, yr Aelod Cabinet dros

Addysg ac Adfywio: “Bravo i lwyddiant Sian-Elin. Mae’r gwaith y maen ei wneud dros blant y Fro yn anhygoel.
“Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n bwysig bod ein plant gyda dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o ddiwylliannau a ffyrdd eraill o fyw. Mae dysgu iaith dramor yn un o’r ffyrdd gorau i wneud hynny.”