Strategaeth Comisiynu ar y Cyd ar gyfer Oedolion ag Anableddau Dysgu
Mae’r Cynghorydd Ben Gray, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd wedi rhoi clod i lansiad strategaeth newydd i gefnogi oedolion ag anableddau dysgu yn y rhanbarth.
Cyngor y Fro, ar y cyd â Chyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sydd y tu ôl i’r Strategaeth Comisiynu ar y Cyd ar gyfer Oedolion ag Anableddau Dysgu, sy’n rhoi cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni darpariaeth yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Mae hefyd yn amlinellu prif broblemau a gaiff eu hystyried yn ystod y cyfnod hwn er mwyn darparu gwasanaethau effeithiol, diogel ac o ansawdd da.
Cafodd y lansiad ei gynnal yn amgylchedd moethus Gwesty Copthorne, a daeth oddeutu 200 o ddarparwyr gwasanaeth iddo, yn ogystal ag oedolion gydag anableddau dysgu, gofalwyr a sefydliadau’r trydydd sector, a glywodd ddetholiad o ddarlithoedd a chyflwyniadau drwy gydol y dydd.

Dywedodd y Cynghorydd Gray: “Mae’r strategaeth hon yn cynrychioli gwaith ar y cyd pwysig rhwng y tri sefydliad sydd wedi dod at ei gilydd i wella ystod y gwasanaethau sydd ar gael i oedolion ag anableddau dysgu, ond hefyd y ffordd y maent yn cael eu darparu.
“Drwy weithio gyda’n gilydd a gwrando ar y bobl bwysicaf – sef y rheiny sy’n defnyddio’r gwasanaethau – rwy’n ffyddiog y gallwn ni gynnig darpariaeth well a chael effaith gadarnhaol sylweddol ar fywydau pobl."
Mae nifer o amcanion penodol yn y strategaeth gyda’r nod o fod o fudd i’r rheiny sydd ag anableddau dysgu.
Mae’r rhain yn cynnwys:
• Sicrhau y gall y rheiny sydd angen cymorth gael y cymorth hwnnw yn eu hardal, gan leihau’r angen i deithio’n ormodol ac aros yn bell o’u cartref.
• Annog rhagor o bobl ag anableddau dysgu i fanteisio ar y prawf iechyd blynyddol a’u cynorthwyo i fynd i’r apwyntiadau.
• Cynyddu niferoedd y rhai sy’n gwneud ymarfer corff a gweithgareddau ffordd o fyw cadarnhaol eraill.
• Helpu’r rheiny sydd ag anableddau dysgu i wneud ffrindiau newydd a’u cadw drwy ddatblygu grwpiau cymdeithasol amrywiol.
• Recriwtio Nyrs Cyswllt Anabledd Dysgu i weithio gyda staff ar wardiau Ysbyty Athrofaol Cymru.
• Datblygu’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol a thechnoleg i helpu gyda rhannu gwybodaeth a chynyddu annibyniaeth pobl.
• Cryfhau cysylltiadau gydag asiantaethau i ddarparu rhagor o gyfleoedd ar gyfer gwaith cyflogedig.
Un o uchafbwyntiau’r lansiad oedd dyn ifanc a ddefnyddiodd ei ddyfais cyfathrebu i ddisgrifio’r gwaith a wneir gan ei dechnegydd ffisiotherapi, ei nyrs a’i therapydd iaith a lleferydd i’w helpu i fod yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol.
Mae’r ddyfais gyfathrebu wedi ei alluogi i fod yn fwy annibynnol, boed hynny drwy ei helpu i archebu coffi yn Costa neu sgwrsio am bêl-droed gyda ffrindiau.
Cafodd gwasanaeth Cyfleoedd Dydd y Fro ei ganmol gan fam a gofalwr menyw ifanc sy’n ei ddefnyddio. Siaradodd am yr amserlen lawn a brysur y mae ei merch yn cael ei chefnogi i fanteisio arni gan staff gofalgar ac ymrwymedig a’r seibiant gwerthfawr a gyniga hyn iddi hi a’i gŵr.
Yn dilyn hyn, datgelodd menyw ifanc arall, gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Cynllunio Cymorth, ei bod yn teimlo’n ‘hapus a hyderus’ ar ôl cael y cyfle i roi cynnig ar farchogaeth a dringo clogwyni.
Clywodd y gynulleidfa hefyd straeon emosiynol gofalwyr, a amlygodd yr heriau personol sydd o’u blaenau wrth geisio cael cymorth ar gyfer anghenion eu plant.
Wrth i’r diwrnod ddirwyn i ben, meddai’r Cynghorydd Gray: “Diolch am y digwyddiad anhygoel hwn. Rydym ni wedi mwynhau cyflwyniadau gwych gan bobl sy’n defnyddio gwasanaethau a gan ofalwyr, a rannodd yn garedig iawn eu profiadau, y rhai da a'r rhai gwael, a hefyd gan weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu.
“Heddiw, cawson brofiad hynod gadarnhaol a chyda’r strategaeth hon, fe allwn ni wneud llawer mwy. Y digwyddiad nesaf fydd yn rhoi syniad i ni o ran sut rydym yn perfformio ac wedi gwrando. Mae hwn yn ddechrau da, ond y peth pwysig yw ein bod yn dangos i chi ein bod yn gwrando ac yn datblygu ac yn ystyried yr hyn a gaiff ei ddweud.
“Cafwyd neges bwysig iawn o ran sefydlogrwydd a’r rôl y gall canolfan ddydd neu debyg ei chwarae o ran parhad. Straeon am sut gall pobl ddweud ‘dyma fi, dyna fy ffrindiau ac maen nhw’n fy ngwerthfawrogi yno’. Roedd hyn yn rymus iawn.
“Cawsom ein hatgoffa o ba mor bwysig yw’r angen i annog annibyniaeth a gwella bywydau. Mae’r gwaith caled yn dechrau o hyn ymlaen mewn gwirionedd, yn gwireddu’r holl ddyheadau, anghenion a’r dymuniadau hyn.”