Strategaeth Comisiynu ar y Cyd i Oedolion ag Anabledd Dysgu 2019 i 2024
Ymunodd Cyngor Bro Morgannwg, Cyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ag asiantaethau partner, unigolion a gofalwyr yn lansiad y Strategaeth Comisiynu ar y Cyd i Oedolion ag Anabledd Dysgu 2019-2024 yng Ngwesty’r Copthorne.
an weithio ynghyd â phobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr, y trydydd sector a’r sector annibynnol, mae Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, wedi datblygu eu Strategaeth Comisiynu ar y Cyd cyntaf i Oedolion ag Anabledd Dysgu.
Mae’r Strategaeth yn cynnig cyfarwyddyd clir ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau i oedolion ag anabledd dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf ac mae’n amlinellu materion allweddol yr ymdrinnir â hwy yn y blynyddoedd nesaf er mwyn darparu gwasanaethau effeithiol, diogel o ansawdd da. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod digon o gapasiti ac ystod briodol o ddarpariaeth i ddiwallu angen lleol.

Y weledigaeth a rennir a’r egwyddorion craidd sy’n ganolog i’r Strategaeth yw bod pobl ag anabledd dysgu yn cael eu cefnogi i gael: ‘ansawdd bywyd da ac i fyw'r bywyd maen nhw eisiau ei fyw; byw'n lleol os ydyn nhw'n teimlo'n ddigon iach i wneud hynny, lle maen nhw'n cael eu gwerthfawrogi a'u cynnwys yn eu cymunedau ac yn gallu cael yr un mynediad i gymorth priodol sy’n sicrhau annibyniaeth, dewis a rheolaeth.’
Yn canolbwyntio ar gyd-gynhyrchu a gweithio mewn partneriaeth, mae’r Strategaeth Comisiynu ar y Cyd i Oedolion ag Anabledd Dysgu yn amlinellu ymrwymiad i weithio â phobl ag anabledd dysgu wrth ddatblygu gwasanaethau, gan ganolbwyntio ar wyth blaenoriaeth a nodwyd trwy ymgynghori ac ymgysylltu ag unigolion, gofalwyr, teuluoedd ac asiantaethau partner.
Cllr Susan Elsmore, Chair of the Regional Partnership Board and Cardiff Council Cabinet Member for Social Care, Health & Well-being said: “This is a bold and ambitious plan that will see all three organisations working together to make a real difference to the lives of adults with learning disabilities in Cardiff and the Vale."
Cllr Ben Gray, Vale of Glamorgan Council Cabinet Member for Social Care and Health, said: “By ‘promoting independence and improving lives’, we will support people to live the lives they choose, with access to high quality, flexible health and social care and support when they need it.”
Fiona Jenkins, Executive Director for Therapies and Health Science at Cardiff and Vale UHB, said: “We’re very proud to have developed this strategy in conjunction with our two local authorities. It is directly in line with the health board’s vision that a person’s chance of leading a healthy life should be the same wherever they live and whoever they are.
Together with our local authority partners, this strategy will ensure we are taking steps in the right direction to improve lives.”
Dywedodd y Cynghorydd Ben Gray, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: “Mae hwn yn gynllun mawr ac uchelgeisiol lle bydd y tri sefydliad yn cydweithio i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau oedolion ag anableddau dysgu yng Nghaerdydd a’r Fro.”
Dywedodd y Cynghorydd Elsmore, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro, a’r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Iechyd yng Nghyngor Caerdydd: “Drwy hybu annibyniaeth a gwella bywydau, byddwn yn helpu pobl i fyw’r bywydau maen nhw’n dewis eu byw, gyda mynediad at ofal cymdeithasol ac iechyd hyblyg o ansawdd uchel, a chymorth pan fo angen cymorth arnyn nhw.”
FDywedodd Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddoniaeth Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi datblygu’r strategaeth hon ar y cyd â’r ddau awdurdod lleol. Mae’n cyd-fynd yn llwyr â gweledigaeth y bwrdd iechyd y dylai cyfle pobl i fyw bywyd iach fod yr un fath lle bynnag maen nhw’n byw a phwy bynnag ydyn nhw. Ynghyd â’n partneriaid awdurdod lleol, bydd y strategaeth hon yn sicrhau ein bod yn cymryd camau yn y cyfeiriad iawn i wella bywydau.”