Cost of Living Support Icon

 

Llond wythnos o adloniant a gweithgareddau yng Ngwasanaeth Dydd Ty Rondel

Cynhaliodd Cyngor Bro Morgannwg wythnos o ddigwyddiadau yng Ngwasanaeth Dydd Tŷ Rondel i ddathlu Wythnos Gofalwyr 2019.

  • Dydd Mawrth, 18 Mis Mehefin 2019

    Bro Morgannwg



Mae’r Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch flynyddol sy’n cynyddu ymwybyddiaeth o ofalwyr, gan amlygu’r heriau sy’n wynebu gofalwyr di-dâl a chydnabod yr aberth maen nhw’n eu gwneud dros eu teuluoedd a’u cymunedau ledled y DU.

Sat down clapping edit

Daeth canwyr a gitarwyr heibio i berfformio clasuron o’r 40au, y 50au a’r 60au i’r bobl hŷn. Wrth glywed yr alawon cyfarwydd, dechreuodd y defnyddwyr gymryd rhan – yn canu, yn curo’u dwylo ac yn dawnsio.

 

Cynhaliwyd Buds ‘n’ Blooms Tiny Tots Play, cynllun lle mae plant dan 5 oed yn cwrdd â’r bobl hŷn yng nghanol yr wythnos. Yn ogystal, gwerthodd y gwasanaeth Gacennau Cwpan, yn codi £66.19 ar gyfer y Gymdeithas Alzheimers.

 

Mae Tŷ Rondel yn llinell gymorth hanfodol i lawer o bobl oedrannus yn y Fro, yn benodol y rhai sy’n dioddef o eiddilwch sy’n ymwneud ag oedran, salwch cronig, anabledd neu broblemau iechyd meddwl, gan gynnwys demensia.

 

Mae’n rhoi peth seibiant i deuluoedd a gwŷr/gwragedd, yn ogystal â rhoi ysgogiad mewn lleoliad cymdeithasol i ddefnyddwyr y gwasanaeth. Mae llawer o’r bobl hŷn sy’n defnyddio’r gwasanaeth hefyd yn dioddef o iselder neu orbryder sy’n arwain at deimladau o arwahanrwydd.

 

Bake Sale edit Jean with biscuit

Meddai’r Cyng. Ben Gray, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: “Mae'r Wythnos 

Gofalwyr yn gyfle pwysig i ganolbwyntio ar y gwaith hanfodol a wneir gan ofalwyr yn ein cymuned sydd yn aml yn ddi-dâl.


“Yn ogystal â chynnig seibiant i’r rhai â chyfrifoldebau gofalu, roedd y digwyddiadau a gynhaliwyd yn Nhŷ Rondel yn tynnu sylw at y cyfraniad anferth mae gofalwyr yn ei wneud a’r heriau sylweddol sy’n eu hwynebu.

 

“Mae gan Dŷ Rondel awyrgylch hyfryd, cynnes a chroesawgar. Mae’r staff yn llawn egni ac yn ofalgar. Fyddech chi ddim yn gwybod bod y bobl hŷn sy’n byw yno’n dioddef o’r cyflyrau hyn gan eu bod yn dod allan o’u cragen.

 

“Rhan o’r rheswm dros gynnal y digwyddiadau hyn oedd cynyddu ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth dydd. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod ei fod ar gael nes bod ei angen arnyn nhw neu aelod o’r teulu, ond mae’n darparu cymaint o gymorth i’r rhai sy’n ei ddefnyddio.”