Disgyblion ysgolion cynradd yn cymryd siâp ar ran ymgyrch
Yn ddiweddar, bu disgyblion o Ysgol Oak Field ac Ysgol Gwaun y Nant yn dod at ei gilydd i greu rhuban gwyn o'u cyrff, yn enw ymgyrch White Ribbon UK.
Bu disgyblion blynyddoedd 5 a 6 o'r ysgolion cynradd cyfagos yn gwisgio mewn siwtiau boeler gwyn, cyn mynd allan i gae chwarae Oak Field.
Roedd athrawon yno i helpu i drefnu’r plant i siâp y rhuban ymwybyddiaeth, symbol a ddefnyddir gan dros 1,000 o achosion yn rhyngwladol. Roedd drôn yno i dynnu lluniau o’r broses, oedd yn hedfan 50 metr uwchben y plant.
“Byddem ni fel cymuned ysgol wastad yn cefnogi ymgyrch tebyg i hon. Mae’n rhoi’r cyfle i ni ddangos ein bod ni yn erbyn unrhyw fath o drais, boed yn erbyn oedolion neu plant. Mae’n bwysig ein bod ni’n datblygu ein disgyblion yn ddinasyddion sydd yn sefyll yn erbyn trais.
“Rydyn ni fel ysgol yn gweithio’n galed i hysbysu ein disgyblion o effeithiau trais ac ei bod hi’n bwysig i ofyn am gymorth os ydynt yn dioddef o neu yn dyst i drais.” - Rhydian Lloyd, pennaeth Ysgol Gynradd Gwaun y Nant.
Roedd Julie Aviet, cynghorydd ward Gibbonsdown a Sandra Perkes, cynghorydd ward Court a Phencampwr Trais Domestig yno yn y digwyddiad.
“Mae’n wych gweld y ddwy ysgol yn cydweithio i dynnu sylw at yr achos. Mae’r Bartneriaeth Bro Ddiogelach yn gwneud gwaith gwych yn ein hysgolion i godi ymwybyddiaeth am drais domestig.” - Sandra Perkes.
Julie Grady, Rheolwr Trais Domestig Bro Ddiogelach a Phencampwr White Ribbon y Fro oedd yn gyrru’r syniad. Mae Julie wedi bod yn gweithio’n agos â disgyblion Cyfnod Allweddol 2, yn rhedeg gweithdai ar ddeall perthnasau iach.
Sefydlwyd White Ribbon UK yn 2005 ac mae’n rhan o fudiad rhyngwladol i stopio trais gwrywaidd yn erbyn menywod. Mae’r sefydliad yn gweithio gyda dynion a bechgyn i herio diwylliannau gwrywaidd sy’n arwain at aflonyddu, trais a chamdriniaeth.