Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 29 Mis Gorffenaf 2019
Bro Morgannwg
Barri
Bydd y penderfyniad yn golygu y bydd Ysgol Sant Baruc, sydd â 210 o ddisgyblion ar hyn o bryd, yn trosglwyddo i adeilad ysgol newydd fodern yng Nglannau’r Barri. Bydd yr adeilad ysgol newydd yn galluogi Ysgol Sant Baruc i ddyblu yn ei maint.
Bydd ysgol feithrin â 96 lle hefyd yn cael ei sefydlu ar y safle.
Dyma’r tro cyntaf i awdurdod lleol yn ne Cymru benderfynu adeiladu ysgol gynradd newydd Gymraeg ar gyfer datblygiad tai newydd.
Dwedodd y Cyng. Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg: “Mae hwn yn adeg tyngedfennol i addysg Gymraeg ym Mro Morgannwg. “Mae’r galw dros addysg Gymraeg yn y Barri wedi cynyddu dros 25% yn y deng mlynedd diwethaf. Bydd y penderfyniad a gymerwyd heddiw yn arwain at gyfleuster modern gyda’r diweddaraf a fydd nid yn unig yn ateb y galw ond hefyd yn cynnig capasiti i’r dyfodol. “Fel Cyngor rydym wedi ymrwymo i helpu Cymru gyrraedd y targed o 1m o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae cynnig amgylcheddau dysgu o’r radd flaenaf ar gyfer addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r dulliau y byddwn yn cael mwy o rieni i gydnabod manteision addysg ddwyieithog."
Dwedodd y Cyng. Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg: “Mae hwn yn adeg tyngedfennol i addysg Gymraeg ym Mro Morgannwg.
“Mae’r galw dros addysg Gymraeg yn y Barri wedi cynyddu dros 25% yn y deng mlynedd diwethaf. Bydd y penderfyniad a gymerwyd heddiw yn arwain at gyfleuster modern gyda’r diweddaraf a fydd nid yn unig yn ateb y galw ond hefyd yn cynnig capasiti i’r dyfodol.
“Fel Cyngor rydym wedi ymrwymo i helpu Cymru gyrraedd y targed o 1m o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae cynnig amgylcheddau dysgu o’r radd flaenaf ar gyfer addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r dulliau y byddwn yn cael mwy o rieni i gydnabod manteision addysg ddwyieithog."
Dwedodd Mark Bowen, RhAG Bro Morgannwgg: “Dyma un o'r cynigion pwysicaf yn hanes Addysg Cyfrwng Cymraeg oherwydd mae'n dangos y gall fod yn floc adeiladu canolog mewn datblygiadau tai mawr newydd. “Mae’n dydd da iawn am Ysgol Sant Baruc a’r dyfodol o’r iaith Gymraeg yn Y Barri, enwedig yn y gorllewin.”
Dwedodd Mark Bowen, RhAG Bro Morgannwgg: “Dyma un o'r cynigion pwysicaf yn hanes Addysg Cyfrwng Cymraeg oherwydd mae'n dangos y gall fod yn floc adeiladu canolog mewn datblygiadau tai mawr newydd.
“Mae’n dydd da iawn am Ysgol Sant Baruc a’r dyfodol o’r iaith Gymraeg yn Y Barri, enwedig yn y gorllewin.”
Mae’r Cyngor yn buddsoddi cyfanswm o £167 miliwn yn ysgolion y Fro fel rhan o’i raglen fuddsoddi ysgolion.
Dangosodd ymarferiad ymgynghori gan y Cyngor yn gynharach eleni gefnogaeth gref i’r cynnig.
Bydd Ysgol Sant Baruc yn symud i’w chartref newydd erbyn mis Medi 2021.