Cost of Living Support Icon

 

Gwaith ar adeilad cymunedol yn Cemetery Approach yn dechrau  

MAE gwaith adeiladu wedi dechrau ar adeilad cymunedol newydd yn rhan o gam diweddaraf o ailddatblygu Cemetery Approach, a ariennir ar y cyd gan Gyngor Bro Morgannwg a Chyngor Tref y Barri. 

  • Dydd Gwener, 26 Mis Gorffenaf 2019

    Bro Morgannwg

    Barri



Ers 2015, mae’r ddau wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i wella’r safle oedd wedi’i esgeuluso yn flaenorol.


Agorwyd Gerddi Cemetery Approach yn ôl yn 2017 yn dilyn gwaith i weddnewid yr ardal i mewn i fan agored a hygyrch i’r gymuned ei fwynhau, drwy gyflawni gwaith tirlunio, ffensys, seddi, planhigion a phalmentydd newydd.

 

cemeteryaproach1

Bydd y gwaith diweddaraf yn creu adeilad ar gyfer y gymuned leol a fydd yn cynnwys man amlbwrpas, ardal gegin, tai bach ac ystafell storio.


Mae’r contractwyr Willis Construction Limited wedi cyrraedd y safle i ddechrau gosod y sylfeini ar gyfer y strwythur a gaiff ei rheoli gan Gyngor Tref y Barri ar ôl cael ei chwblhau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: Rydym ni wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Tref y Barri dros nifer o flynyddoedd i weddnewid yr hyn oedd yn ardal wedi ei hesgeuluso a’i hanwybyddu mewn man y gallai’r gymuned leol ei fwynhau a bod yn falch ohono.

 

cemeteryapproach3

“Mae cam diweddaraf y cynllun hwnnw’n cynnwys adeiladu cyfleuster a fydd yn cynnwys amwynderau a man storio, rydym yn gobeithio y bydd o fudd i’r rheiny sy’n defnyddio’r ardal.” 

Dywedodd Maer Tref y Barri, Margaret Wilkinson: “Bydd yr adeilad cymunedol hwn yn cyfrannu at fentrau y Cyngor Tref i ddatblygu’r gymuned yn yr ardal a bydd yn ‘ennill y dydd’ yn sefyll drws nesaf i’r parc hardd sydd eisoes yno.”