Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 09 Mis Gorffenaf 2019
Bro Morgannwg
Aeth yr Aelod Cabinet dros Hamdden, Celfyddydau a Diwylliant, y Cynghorydd Kathryn McCaffer, i’r digwyddiad agoriadol ar 3 Gorffennaf, ynghyd â rhyw 60 gwestai, yn cynnwys yr arlunwyr.
“Mae gennyn ni gymuned ardderchog o arlunwyr a chrefftwyr yn y Fro. Mae’r arddangosfa hon yn gyfle gwych i ddathlu creadigrwydd, sgiliau, profiad ac arbenigedd yr arlunwyr.” - Kathryn McCaffer.
Mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith o gyfryngau amrywiol gan arlunwyr o bob rhan o’r Fro.
Mae llawer o ddarnau yn dangos annwyl ardaloedd y Fro, yn y gorffennol a’r presennol. Dywedwyd bod y gwaith yn dangos llawer o emosiwn, hiwmor ac agweddau dramatig.
Yr wythnos flaenorol, cafodd gwesteion o Drefi Gefeilliedig y Fro yn yr Almaen, Gwlad Belg a Ffrainc ragolwg o’r arddangosfa.
Mae’r arddangosfa ar agor tan ddydd Sadwrn 3 Awst, 3:30pm yn Oriel Gelf Ganolog, Sgwâr y Brenin, Y Barri. Os hoffech gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â'r isod.