Cafodd cyfanswm o £3,538,708 ei sicrhau ar gyfer cyfleusterau cymunedol ym Mro Morgannwg drwy
gytundeb cyfreithiol wedi ei gysylltu â chaniatâd cynllunio yn 2018/19.
Yn y flwyddyn rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019 sicrhawyd cyfanswm o 26 o gytundebau A106 gyda datblygwyr gan dîm cynllunio’r Cyngor.
Caiff yr arian hwn ei ddefnyddio nawr i ddarparu neu wella cyfleusterau yn agos at ddatblygiadau.
“Mae’r projectau a sicrhawyd drwy gyllid A106 nawr yn rhan annatod o waith adfywio’r Cyngor. mawr, megis ysgolion newydd, parciau a mannau agored, seilwaith trafnidiaeth, a chelf gyhoeddus.
“Mae cynlluniau a gyflawnwyd yn ddiweddar megis ailddatblygu parciau Lougher Place yn Sain Tathan a Fferm Goch yn Llangan wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau lleol ac ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb y cyllid hwn.
Yn yr un ffordd, bydd tai fforddiadwy yn Brecon Court yn diwallu angen gwirioneddol lleol am dai newydd a bydd yr ardal ddysgu awyr agored newydd i Ysgol Gynradd Oakfield ac Ysgol Gwaun y Nant yn galluogi staff i gynnal eu dosbarthiadau cyntaf y tu allan i’r ystafelloedd dosbarth.” - Cynghorydd Edward Williams - yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol, Rheoliadol a Chynllunio.
Yn ogystal â chael ei ddefnyddio i dalu am gyfleusterau lleol a seilwaith, defnyddir yr arian o’r A106 i helpu i ariannu cynlluniau drwy Gronfa Arloesol Cymhorthdal Cymunedau Cryf y Cyngor.
Mae’r gronfa yn darparu platfform i grwpiau cymunedol, y sector gwirfoddol, a chynghorau tref a chymuned i wireddu eu projectau.
Er enghraifft, talwyd am y project Gwylltio am Natur yn Ninas Powys, am ffens newydd i glwb tenis Llanilltud Fawr, beiciau arbenigol ar gyfer Clwb beicio Addasiadol y Fro drwy gyllid A106.
Mae gofynion y rhwymedigaethau cynllunio a sicrhawyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hefyd wedi cynnwys rhwymedigaethau talu mewn ffyrdd eraill megis darparu tai fforddiadwy ar-safle, gofod agored cyhoeddus ar-safle a chelf gyhoeddus.