Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 03 Mis Ionawr 2019
Bro Morgannwg
Ymunodd Tesco â Groundwork i lansio ei gynllun ariannu cymunedol, sy'n dyfarnu grantiau gwerth £4,000, £2,000 a £1,000 a godwyd trwy werthu bagiau siopa yn siopau Tesco i brosiectau cymunedol lleol. Mae Tŷ Dyfan yn codi arian i brynu 'Bwrdd hud' ('Tovertafel') ar gyfer cartref preswyl Tŷ Dyfan. Taflunydd rhyngweithiol yw'r bwrdd hud sy'n cymell pobl i gymryd rhan mewn gemau sy'n ysgogi gweithgaredd corfforol a chymdeithasol. Mae nifer o gemau, sy'n cynnwys animeiddiadau ysgafn rhyngweithiol sy'n adweithio i symudiadau llaw a braich, yn cael eu taflunio ar fwrdd, a phrofwyd bod y gemau'n gwella lles pobl sy'n byw gyda dementia. Mae cost Tovertafel tua £6,000. Dywedodd Marijke Jenkins, Rheolwr Gweithredol Gwasanaethau Preswyl a Chydymffurfiaeth: "Rydym yn ddiolchgar iawn fod ein cais i gynllun grantiau cymorth bagiau Tesco wedi bod yn llwyddiannus, a gobeithiwn y bydd pobl yn ein cefnogi drwy ein hystyried wrth godi arian ac wrth ymweld â siopau Tesco yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror. Ar ran preswylwyr Tŷ Dyfan, diolch yn fawr iawn.”Mae'r pleidleisio yn mynd rhagddo ym mhob siop Tesco yn y Barri, drwy fis Ionawr a mis Chwefror. Bydd cwsmeriaid yn bwrw eu pleidlais gan ddefnyddio tocyn a roddir iddynt wrth dalu yn y siop bob tro y maent yn siopa.Dywedodd Alec Brown, Pennaeth Cymuned Tesco: "Mae Bagiau Cymorth wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac rydym wedi cael ein llethu gan ymateb cwsmeriaid. Mae'n gynllun mor arbennig gan mai pobl leol sy'n penderfynu sut y caiff yr arian ei wario yn eu cymuned. Mae prosiectau gwych ar y rhestrau byr ac nid ydym yn gallu aros i weld y rhain yn cael eu gwireddu mewn cannoedd o gymunedau."Bydd y prosiect sy’n cael nifer fwyaf y pleidleisiau’n cael £4,000, caiff y prosiect yn yr ail safle £2,000 (neu'r swm y gofynnwyd amdano os yw’n is na hyn), a chaiff y prosiect yn y trydydd safle £1,000. Isod, ceir rhestr o siopau lle gall cwsmeriaid fwrw pleidlais:
Tesco Superstore y Barri, CF62 8NX;
Siop Tesco Express Heol Holltwn y Barri, CF63 4SU;
Siop Tesco Express Barry Road, CF63 1BA;
Dinas Powys CASTL EXP, CF64 4NR;
Tesco Superstore Penarth, CF62 1NX;
Siop Express Penarth, CF64 2AF;
Siop Express y Rhws, CF62 3DT.