Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 23 Mis Ionawr 2019
Bro Morgannwg
Mae nifer o breswylwyr wedi dweud bod twyllwyr wedi cysylltu â nhw, gan ddefnyddio brandio Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a GovDelivery mewn e-byst a gofyn i bobl:
Hawlio ad-daliad Treth Gyngor; neu
Dalu dyled; neu
Wneud cais i ostwng eu band Treth Gyngor.
Mae gohebiaeth gan y twyllwyr wedi ei hanfon gan “Andrew Walsh, Head of Digital Communication Services” gyda “Council Tax and Payroll Service” fel pennawd, ac wedi ei hanfon o’r cyfeiriad e-bost city.council.payroll.services.gov.uk@tax.com.
Anogir preswylwyr i beidio â datgelu eu manylion bancio nac unrhyw wybodaeth bersonol arall os bydd rhywun yn cysylltu â nhw i gynnig gwasanaeth o’r fath.
Gofynnir i bawb sy’n derbyn gohebiaeth fel yr un uchod i hysbysu’r Cyngor, naill ai drwy ffonio 01446 709564 neu e-bostio CouncilTax@valeofglamorgan.gov.uk.
Mae cyfarwyddyd hefyd ar gael gan y Gwasanaeth Cyngor Ar Bopeth.