Maer y Fro i gynnal Digwyddiad Cofio’r Holocost
Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn dathlu Diwrnod Cofio'r Holocost (DCH) gyda dwy arddangosfa yn Oriel Gelf Ganolog y Fro.

Yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 26 Ionawr, bydd arddangosfa ‘Gorfodi o Gartref’ yn cynnwys y Cynghorydd Leighton Rowlands, Maer Cyngor Bro Morgannwg, yn cyflwyno cerfluniau Alison Lochhead, ‘Layered memories of Conflict and Abandonment’ a chasgliad yr artist digidol penigamp, Nerea Martinez de Lecea, ‘Child A’.
Bydd yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant, y Cynghorydd Bob Penrose yn ymuno â’r Cynghorydd Rowlands, a fydd yn croesawu’r ddau artist i’r oriel.
Yna, bydd yr artistiaid, yn eu tro, yn trafod eu gwaith ar themâu atgofion, gwrthdaro a hunaniaeth.
Mae Alison Lochhead yn dweud stori gwrthdaro, mudo a dinistrio diwylliant a hanes drwy ei gosodiad o esgidiau haearn bwrw, llyfrau wedi’u llosgi a cholofnau rwbel, tra bod paentiadau digidol ‘Child A’ Nerea Martinez de Lecea yn ymchwilio i hunaniaeth ranedig a synnwyr a theimlad anhrefnus o ran bod yn y byd.
Dywedodd y Cynghorydd Rowlands:
“Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn cael ei gynnal ar 27 Ionawr – yn nodi’r dyddiad y cafodd Auschwitz-Birkenau ei ryddhau.
“Rwy’n gobeithio y bydd llawer o’n preswylwyr yn ymuno â’r Oriel Gelf Ganolog dros y penwythnos i dalu teyrnged a chofio’r rheiny a gollodd eu bywydau yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac mewn hil-laddiadau dilynol.”
Dywedodd y Cynghorydd Penrose:
“Bydd arddangosfa eleni’n cynnig cymysgedd unigryw o gerfluniau a gwaith celf digidol gan Lochhead a Martinez de Lacea, y ddau’n artistiaid penigamp sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.
“Er bod yr arddangosfeydd yn amrywio o ran cyflwyno eu themâu, mae’r ddwy’n galluogi eu cynulleidfaoedd i ystyried hil-laddiad a cholli hunaniaeth.
“Mae thema eleni, sydd wedi’i gosod gan Ymddiriedaeth Cofio’r Holocost yn ein hatgoffa ni na ddylai erchylltra o’r fath ddigwydd byth eto.”
Mae’r thema ‘Gorfodi o Gartref’ yn annog cynulleidfaoedd i adlewyrchu ar sut mae colli lle diogel sy’n ‘gartref’ iddynt yn rhan o’r trawma a wynebir gan unrhyw un sy’n cael profiad o erlyniad a hil-laddiad.
Mae’r arddangosfa’n agor am 11:00am ar 26 Ionawr, ac mae ar agor i bob aelod o’r cyhoedd.
Gallwch ei gweld yn yr Oriel Gelf Ganolog, Sgwâr y Brenin, Y Barri, tan ddydd Sadwrn 02 Mawrth 2019.
Mae’r oriel ar agor dydd Llun tan ddydd Gwener, rhwng 09:30am a 4:30pm, a rhwng 09:30am a 3:30pm ar ddydd Sadwrn.
I gael rhagor o wybodaeth am hyn ac arddangosfeydd yn y dyfodol yn yr Oriel Gelf Ganolog, ewch ar www.valeofglamorgan.gov.uk/artcentral.