Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 22 Mis Ionawr 2019
Bro Morgannwg
Daeth yr athrawon – a adweinir fel "Eiriolwyr Celf" yn eu hysgolion yn ardal Canolbarth De Cymru – at ei gilydd i rannu syniadau er mwyn paratoi ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol newydd.Wedi'u hysbrydoli gan y lleoliad, defnyddiwyd arddangosfa Philip Muirden yn yr oriel i drafod sut y gellid defnyddio gofodau ac arddangosfeydd tebyg i ysbrydoli addysgu a dysgu creadigol yn eu hysgolion.Hwyluswyd y digwyddiad gan A2Connect, sy'n cynnal rhwydweithiau proffesiynol ac yn meithrin cydweithredu rhwng athrawon y celfyddydau mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae A2Clymu yn bartneriaeth rhwng y Criw Celf ac awdurdodau lleol rhanbarthol, gan gynnwys Cyngor Bro Morgannwg, cynghorau Rhondda Cynon Taf, Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful, ac fe'i cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Y bore Gwener canlynol, gwelwyd tri deg o ddisgyblion Blwyddyn 6 o Ysgol Gynradd Parc Jenner gerllaw yn cymryd rhan mewn trafodaethau ac astudiaethau arsylwadol agos yn yr oriel, a wnaeth ymateb drwy greu darluniau a chyfansoddiadau a gymerodd ysbrydoliaeth o ddelweddau Muirden. Dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant yng Nghyngor Bro Morgannwg:
"Mae hon yn enghraifft wych o sut rydym ni, fel Cyngor, yn ceisio cydweithio â phartneriaid mewn ymdrech i arloesi a gwella ein gwasanaethau."Fe wnaeth y digwyddiad alluogi ein hathrawon i rannu syniadau gyda rhai o awdurdodau lleol cyfagos, a mynd yn ôl i'w hysgolion ac ysbrydoli eu disgyblion. "Rwy'n gobeithio bod y digwyddiad wedi bod yn fuddiol i'r athrawon oedd yn bresennol, ac i ddisgyblion ar draws y sir a fydd, mae'n siŵr gennyf, yn edrych ymlaen at wersi celf creadigol newydd!"
"Mae hon yn enghraifft wych o sut rydym ni, fel Cyngor, yn ceisio cydweithio â phartneriaid mewn ymdrech i arloesi a gwella ein gwasanaethau."Fe wnaeth y digwyddiad alluogi ein hathrawon i rannu syniadau gyda rhai o awdurdodau lleol cyfagos, a mynd yn ôl i'w hysgolion ac ysbrydoli eu disgyblion.
"Rwy'n gobeithio bod y digwyddiad wedi bod yn fuddiol i'r athrawon oedd yn bresennol, ac i ddisgyblion ar draws y sir a fydd, mae'n siŵr gennyf, yn edrych ymlaen at wersi celf creadigol newydd!"
Mae’r Oriel Celf Ganolog yn agored i'r cyhoedd dydd Llun - dydd Gwener 9:30am-4:30pm a 3:30pm ar ddydd Sadwrn.Mae'r arddangosfa nesaf o gerfluniau gan Alison Lochhead a phaentiadau digidol gan Nereya Martinez de Lecea yn agor yn ffurfiol ar ddydd Sadwrn 26 Ionawr am 11am.I gael gwybodaeth bellach ynghylch datblygiad proffesiynol neu ynghylch ymweld â'r galeri gyda'ch ysgol, cysylltwch â Gwasanaeth Datblygu'r Celfyddydau ar 01446 709805 neu ewch i: www.valeofglamorgan.gov.uk.