Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Bydd dros 50 o sefydliadau gwirfoddol yn dod at ei gilydd yn Neuadd Goffa’r Barri i ddathlu gwirfoddoli, mewn digwyddiad recriwtio gwirfoddolwyr.
Bydd yn gyfle gwych i bobl siarad yn uniongyrchol gyda sefydliadau sy’n darparu gwirfoddolwyr a darganfod mwy am y cyfleoedd cyffrous sydd ganddynt. Daeth dros 400 o unigolion o’r gymuned leol i ddigwyddiad tebyg yn 2017 i ymchwilio i gyfleoedd gwirfoddoli.
“Rydyn ni’n estyn gwahoddiad cynnes i’r cyhoedd wneud gwahaniaeth yn y Fro drwy wirfoddoli. Os oes gennych awr rydd yr wythnos neu ddiwrnod rhydd bob mis, ac awydd gwybod mwy am wirfoddoli, bydd croeso mawr i chi yn ein digwyddiad ym mis Ionawr.” - Paul Warren, GVS
Mae gwirfoddoli’n ffordd wych i gynyddu hyder, gwella CV, cwrdd â phobl newydd, cael profiadau newydd a helpu’r gymuned.
www.gvs.wales
Rhif Elusen Gofrestredig 1163193