Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 13 Mis Chwefror 2019
Bro Morgannwg
Yn gyn-filwr, gwasanaethodd am 31 o flynyddoedd cyn ymddeol ar sail feddygol.
John oedd yr unig Sais yn ei ddosbarth, ond er gwaethaf ei bryderon, gwelodd bod agwedd broffesiynol gadarnhaol ei diwtor, Shareen Mitchell, yn eithriadol, ac fe benderfynodd fwrw ymlaen gyda’i gwrs.
Mae Shareen wedi bod yn gweithio fel tiwtor yn y Fro ers chwe blynedd a dywed ei bod yn mwynhau ei gwaith yn fawr.
Dywedodd Mr Voss: “Mae Shareen mor broffesiynol, ac mae’n gwbl ymroddedig at ddatblygu pob lefel gallu, yn blant ac yn oedolion. “Mae ei brwdfrydedd a’i hymroddiad yn neilltuol, ac mae’n llwyr ddeall yr hyn sy’n gallu bod yn anodd i ddysgwyr. Rwyf mor ddiolchgar iddi am wneud i fi ddeall yr iaith ac – yn bwysicach na dim – fy ngalluogi i siarad Cymraeg gyda fy merch, a ninnau’n dau yn ein deall ein gilydd.”
Dywedodd Mr Voss: “Mae Shareen mor broffesiynol, ac mae’n gwbl ymroddedig at ddatblygu pob lefel gallu, yn blant ac yn oedolion.
“Mae ei brwdfrydedd a’i hymroddiad yn neilltuol, ac mae’n llwyr ddeall yr hyn sy’n gallu bod yn anodd i ddysgwyr. Rwyf mor ddiolchgar iddi am wneud i fi ddeall yr iaith ac – yn bwysicach na dim – fy ngalluogi i siarad Cymraeg gyda fy merch, a ninnau’n dau yn ein deall ein gilydd.”
Aeth Rheolwr Gyfarwyddwr y Fro, Rob Thomas, a’r Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau, Paula Ham, ar ymweliad yn ddiweddar â’r Ganolfan Ddysgu Oedolion yn y Gymuned yn Palmerston yn y Barri.
Dywedodd Rob Thomas: “Roeddwn i wrth fy modd yn clywed adborth mor gadarnhaol gan un o’r disgyblion, oedd yn ystyried dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ar raglen hyfforddi’r Cyngor yn hynod o fuddiol. “Roedd yn amlwg yn syth bod yna frwdfrydedd ac ymrwymiad anhygoel, gan Shareen ei hun, ond gan holl staff y ganolfan hefyd. Mae hyn yn gwneud dysgu’r Gymraeg yn hwyl, beth bynnag yw’r rheswm dros ddysgu – cefnogi’r plant mewn addysg Gymraeg, creu rhagor o gyfleoedd gwaith neu i gymdeithasu.”
Dywedodd Rob Thomas: “Roeddwn i wrth fy modd yn clywed adborth mor gadarnhaol gan un o’r disgyblion, oedd yn ystyried dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ar raglen hyfforddi’r Cyngor yn hynod o fuddiol.
“Roedd yn amlwg yn syth bod yna frwdfrydedd ac ymrwymiad anhygoel, gan Shareen ei hun, ond gan holl staff y ganolfan hefyd. Mae hyn yn gwneud dysgu’r Gymraeg yn hwyl, beth bynnag yw’r rheswm dros ddysgu – cefnogi’r plant mewn addysg Gymraeg, creu rhagor o gyfleoedd gwaith neu i gymdeithasu.”