Cyngor Bro Morgannwg yn codi arian at y Gymdeithas Alzheimer
Daeth gweithiwr Cyngor Bro Morgannwg, Rachael Slee, ag ychydig o Begwn y Gogledd i'r Barri yn ddiweddar er mwyn codi arian ar gyfer achos sy’n agos at ei chalon.
Trefnodd y Rheolwr Cyfleusterau gyfres o ddigwyddiadau ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol y Coblynnod yn y swyddfeydd dinesig, menter sy'n cefnogi'r rhai y mae dementia yn effeithio arnynt.
Gwisgodd staff y Cyngor fel coblynnod a buont yn addurno’u desgiau, chwarae gemau, gwerthu cacennau, cystadlu mewn ocsiwn a chynnal raffl hefyd, gyda'r holl elw'n mynd i Gymdeithas Alzheimer Cymru.
Ond roedd ochr fwy difrifol.
Collodd Rachael ei mam-gu i ddementia a'r profiad hwnnw o'r afiechyd a'i hysgogodd i gymryd camau i'w ymladd.
"Roeddwn i'n agos iawn at fy mam-gu gan mai fi oedd yr hynaf o'r wyrion a’r wyresau ac roedd gwylio clefyd Alzheimer yn tynnu ymaith ei phersonoliaeth, ei symudedd a'i hiechyd meddyliol a chorfforol yn gwbl dorcalonnus," meddai Rachael.
"Ddylai neb ddioddef fel hynny a ddylai neb orfod gweld rhywun annwyl yn marw o'u blaen fel hyn yn araf.
"Mae gen i atgofion melys o dreulio penwythnosau gyda hi yn fy mhlentyndod a gwneud cacennau ond fe wnaethon ni hefyd wylio llawer o raglenni ditectif ac roedd y ddwy ohonom yn frwd dros ddarllen a byddem yn cyfnewid llyfrau trosedd gan fod y rhain yn bethau yr oedd y ddwy ohonom yn eu hoffi. Dwi'n ei beio hi am y ffaith mod i'n caru cacennau cymaint!
"Gyda chefnogaeth cydweithwyr amrywiol sydd hefyd wedi cael eu heffeithio gan naill ai colli rhywun i glefyd Alzheimer neu sydd ar hyn o bryd yn gwylio eu hanwyliaid yn byw gyda'r clefyd, roedd y syniad am Ddiwrnod Coblynnod wedi cipio’r dychymyg."
Nid dyma'r tro cyntaf i Rachael godi arian, oherwydd yn y blynyddoedd diwethaf mae wedi cefnogi achosion fel Cancer Research UK, The Wallich, NSPCC a hefyd Ymddiriedolaeth Iau Prydain yn dilyn marwolaeth cydweithiwr.Ei llys-dad yw cyn-olygydd y Barry and District News, Ralph Phillips, ac roedd ei mam Margaret Phillips yn arfer gweithio yno hefyd.
"Ers rhai blynyddoedd bellach dydw i ddim wedi anfon cardiau Nadolig gan fy mod i'n teimlo y gellid defnyddio'r arian rwy'n ei wario ar gardiau a stampiau mewn ffordd well," ychwanegodd Rachael.
Yn draddodiadol, mae'r Nadolig yn adeg o roi felly pa amser gwell i feddwl am elusen i roi'r arian hwnnw yn lle hynny?
Dwi'n dewis elusen wahanol bob blwyddyn ac yn defnyddio grym y cyfryngau cymdeithasol i ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i'm teulu a'm ffrindiau.
Rwy'n teimlo ar ben fy nigon gyda'r gefnogaeth a gefais wrth drefnu Diwrnod Ellyllon. Mae Katie Matthews wedi bod yn wych, yn cysylltu â gwahanol bobl ac asiantaethau i gael rhai rhoddion ar gyfer yr arwerthiant distaw a'r raffl.
Mae Carole Tyley a Symon Dovey wedi bod yr un mor wych, tra bo Lynne Clarke wedi gwneud cymaint yn y ganolfan gyswllt ac wedi cael effaith enfawr.
Mae llawer o gydweithwyr wedi pobi cacennau, wedi rhoi gwobrau raffl ac wedi prynu tocynnau ac mae fy nhîm rheoli hefyd wedi bod mor gefnogol - Lorna Cross, Ben Winstanley, Carys Lord a rhaid cofio’r Rheolwr Gyfarwyddwr Rob Thomas, Arweinydd y Cyngor Neil Moore a'r Dirprwy Arweinydd Lis Burnett."