Y lolipops gorau! Datgelu'r enillwyr o blith herbryngwyr croesfannau ffordd y Cyngor
Mae nifer o swyddogion croesfannau ffordd Cyngor Bro Morgannwg wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Diogelwch Ffyrdd y Fro, yn Swyddfa’r Dociau yn y Barri.

Mae’r gwobrau blynyddol, a drefnir gan Dîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor y Fro, yn rhan o’r grŵp Datblygu Priffyrdd a Thrafnidiaeth, yn cydnabod a gwobrwyo cyfraniad y sawl sy’n gweithio fel hebryngwyr croesfannau ffordd ledled y sir.
Aeth y brif wobr ar gyfer Hebryngwyr Croesfannau’r Flwyddyn i Nicholas Latham, aelod poblogaidd o gymuned Ysgol San Helen. Mae Nicholas yn help disgyblion ar ran brysur o’r ffordd fawr ar Fryn Tynewydd.
Roedd enillwyr eraill yn cynnwys Ruth Grant, a enillodd y wobr ar gyfer ardal y Barri, Julie Ellis a enillodd ar gyfer ardal Llanilltud Fawr a’r Fro Wledig, a David Regan a enillodd ar gyfer ardal Penarth, Sili a Dinas Powys.
Diolchwyd hefyd i bedwar aelod sydd wedi bod wrthi ers talwm ac sydd wedi ymddeol neu symud yn eu blaen yn ystod y flwyddyn, gyda 63 o flynyddoedd o wasanaeth rhyngddynt. Rhoddwyd diolch arbennig hefyd i gydlynwyr a gwirfoddolwyr Cynllun Hyfforddi Cerddwyr Ifanc Kerbcraft. Eleni, mae 600 o blant 6 i 7 oed wedi dysgu i groesi’r ffordd yn ddiogel, diolch i’r cynllun.
Cafwyd bwffe a chwis diogelwch ar y ffyrdd, gyda rhai hefyd yn cymryd rhan mewn gêm i osod pin ar ‘Trwyn ar y Carw’.
Diolchwyd i bawb a ddaeth ynghyd gan y Cynghorydd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a’r Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg. Dwedodd:
“Cafodd y Gwasanaeth Hebryngwyr Croesfannau Ysgolion a’r Cynllun Kerbcraft eu sefydlu i gadw plant yn ddiogel ar neu ger ein heolydd prysur. Mae llwyddiant y cynllun yn dibynnu ar ymrwymiad ac ymroddiad unigolion.
“Mae pawb yma wedi helpu i gadw heolydd y Fro’n ddiogel dros y flwyddyn ddiwethaf - diolch i chi i gyd a Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda."