Rising Sun yn codi arian ar gyfer New Horizons
Elwodd gwasanaeth dydd Cyngor Bro Morgannwg, New Horizons, o rodd hael a gyflwynwyd gan Glwb Carate Kyokushin Rising Sun y Barri.
Yn nhwrnamaint blynyddol y clwb, gwelwyd 20 o blant yn y dojo yn dangos eu sgiliau ymladd.
Dyfarnwyd pwyntiau ar gyfer dangos agweddau technegol o Kyokushin, yn ogystal â pherfformiad a chyswllt gwych.
Cododd y plant £110.00 yn y digwyddiad, a roddwyd i Elusen League of Friends yr Hen Goleg ar gyfer Gwasanaeth Dydd New Horizons, hefyd yn y Barri.
Mae Gwasanaeth Dydd New Horizons yn cynnig gwasanaeth dydd i breswylwyr y Fro sy’n byw gydag anabledd corfforol parhaol neu sylweddol. Nod y gwasanaeth yw gwella lles pobl drwy gefnogi eu hiechyd, bywyd cymdeithasol ac annibyniaeth, yn ogystal â chynnal a datblygu eu sgiliau.
Mae’r gwasanaeth yn dibynnu ar dîm o staff ymroddedig a phrofiadol ac yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau therapiwtig a chreadigol. Mae’r ganolfan yn cynnwys campfa arbenigol a dosbarthiadau ymarfer corff ac yn cynnig gweithgareddau cymunedol fel gwaith pren, crefftau a cherddoriaeth.
Maen nhw hefyd yn cynnig gofal personol, eirioli, cymorth ar gyfer cyfathrebu, cymorth emosiynol a seibiant i ofalwyr.
“Mae’n braf gweld grŵp o blant mor gydwybodol llawn tosturi – rydym yn ddiolchgar iawn am eu cyfraniad.
“Mae Canolfan Ddydd New Horizons yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i’w ddefnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys dosbarthiadau ymarfer corff arbenigol. Mae cyfraniadau fel hyn yn medru helpu i sicrhau bod pobl gydag anabledd gyda mynediad i offer ymarfer corff arbenigol.” - Lance Carver, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.