Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 24 Mis Rhagfyr 2019
Bro Morgannwg
Creodd y tîm Ofod Nadoligaidd hyfryd yng Nghanol tref y Barri, gyda gweithdy corachod a groto Siôn Corn.
Roedd croeso cynnes i’r plant yno, ynghyd â stori gan Mrs Corn, celf a chrefft yn y gweithdy, a chyfle i gwrdd â Siôn Corn ei hun a chael rhodd ganddo.
Dyma’r tro cyntaf i’r tîm gynnal digwyddiad o’r fath, ac roedden nhw wedi cael eu hysbrydoli gan eu hymweliadau nhw eu hunain gyda’u plant â grotos Siôn Corn. Mae’r rhain yn gallu bod yn ddrud, fodd bynnag, yn enwedig i deuluoedd â mwy nag un plentyn.
Roedd mynediad am ddim i ddigwyddiad Dechrau’n Deg ac roedd yn agored i deuluoedd Dechrau’n Deg a theuluoedd sy’n defnyddio gwasanaeth Synnwyr Chwarae’r Fro. Yn sgil ei lwyddiant, gobaith y tîm yw y bydd yn troi’n ddigwyddiad blynyddol.
“Roedd hyn yn waith gwych gan Dechrau’n Deg a gwnaeth y tîm yn wych. “Gall cost y Nadolig fod yn llethol i deuluoedd ac mae digwyddiadau fel yr un yma yn sicrhau y gall pawn gymryd rhan.” - Dywedodd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio.
“Roedd hyn yn waith gwych gan Dechrau’n Deg a gwnaeth y tîm yn wych.
“Gall cost y Nadolig fod yn llethol i deuluoedd ac mae digwyddiadau fel yr un yma yn sicrhau y gall pawn gymryd rhan.” - Dywedodd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio.