Fforwm 50+ i gynnal CCB
Mae croeso i holl breswylwyr y Fro fynychu cyfarfod cyffredinol blynyddol (CCB) Fforwm 50+ Bro Morgannwg, a gynhelir ddydd Iau 19 Medi.

Bydd Victoria Lloyd, Prif Swyddog Gweithredol Age Cymru yn mynychu’r digwyddiad fel y prif siaradwr.
Grŵp gweithgar yw'r Fforwm sy’n gweithio i gefnogi a hybu anghenion y bobl hynny sy’n hŷn na 50 oed yn y Fro ac ar draws Cymru. Mae aelodau yn cwrdd yn rheolaidd i drafod materion sy’n bwysig iddynt a’u cymuned. Gall y rhain gynnwys iechyd, tai, trafnidiaeth a chelf, crefft a hamdden.
Mae aelodau’r Fforwm hefyd yn trefnu nifer o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn. Mae rhai o'u digwyddiadau sydd ar ddod yn cynnwys bore coffi ym Mharc Belle Vue ar 12 Medi. I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn, bydd diwrnod hwyl yn cael ei gynnal ar 01 Hydref yn CF61 yn Llanilltud Fawr, a fydd yn cynnwys nifer o berfformiadau, gweithgareddua a stondinau gwybodaeth partneriaid.
Bydd y cyfarfod yn cynnig cipolwg ar y Fforwm a’i waith, yn ogystal â chynnig y newid i aelodau presennol i ymgeisio am swydd aelod gweithredol.
Mae aelodau'r Weithrediaeth yn gweithio ynghyd i roi llais i bobl hŷn yn y Fro a hyrwyddo gwaith y Fforwm. Rhaid i geisiadau ar gyfer hyn gael eu cwblhau erbyn 2 Awst, a chaiff aelodau eu hethol yn y CCB.
Mae manylion y CCB fel a ganlyn:
Ystafell Gorfforaethol y Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri CF63 4RU
Dydd Iau 19 Medi
Bydd y cofrestru’n agor am 9am, gyda phaned o goffi am ddim.
Atebwch cyn y CCB os yn bosibl.
I ddysgu mwy am y Fforwm a'i aelodaeth, cysylltwch â’r isod: