Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 09 Mis Awst 2019
Bro Morgannwg
Wedi’i leoli yn flaenorol yn West House, Penarth, mae’r gwasanaeth wedi ei dreialu ar y safle ers mis Ionawr 2019. Cafwyd adborth hynod gadarnhaol amdano.
Mae partneriaeth rhwng Cyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro nawr yn galluogi teuluoedd i gofrestru marwolaethau a genedigaethau ar dir yr ysbyty.
Bydd hwn hefyd yn rhoi’r cyfle i ledaenu’r gwasanaeth i gofrestru hysbysiadau priodi a phartneriaeth sifil yn y dyfodol.
Mae hyn yn rhoi cyfle i deuluoedd a’r gymuned gofrestru’n gyfleus, heb orfod i rai deithio i’r Swyddfeydd Dinesig yn y Barri. Mae hyn wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol i deuluoedd sy’n dioddef trawma, straen neu brofedigaeth. Mae’r Gwasanaeth Cofrestru ar lawr cyntaf yr ysbyty, ger y Swyddfa Profedigaeth.
“Mae newid, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, yn gallu anesmwytho unigolion a theuluoedd. Drwy resymoli’r gwasanaeth, bydd yn lleihau’r pwysau ar ein trigolion wrth iddyn nhw fynd drwy’r newidiadau hyn. “Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth staff profedigaeth yr ysbyty, sy’n helpu i ddarparu’r gwasanaeth.” - Eddie Williams, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol, Cynllunio a Rheoleiddio.
“Mae newid, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, yn gallu anesmwytho unigolion a theuluoedd. Drwy resymoli’r gwasanaeth, bydd yn lleihau’r pwysau ar ein trigolion wrth iddyn nhw fynd drwy’r newidiadau hyn.
“Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth staff profedigaeth yr ysbyty, sy’n helpu i ddarparu’r gwasanaeth.” - Eddie Williams, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol, Cynllunio a Rheoleiddio.
“Drwy weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Bro Morgannwg, mae’r BIP yn ymdrechu i wella profiad y sawl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, yn enwedig yn ystod cyfnodau anodd yn eu bywydau. Rydyn ni’n falch o allu parhau i weithio gyda’n cydweithwyr yn yr Awdurdod Lleol i ddarparu’r gwasanaeth pwysig hwn.” - Ruth Walker, Cyfarwyddwyr Gweithredol Nyrsio HIP Caerdydd a’r Fro.