Dyn o Benarth yn cael ei erlyn am werthu nwyddau ffug, colur anniogel a throseddau dilysnodi
Mae dyn o Benarth wedi’i gael yn euog o werthu colur anniogel, nwyddau ffug a gemwaith oedd yn torri gofynion dilysnodi ar ôl archwiliad Safonau Masnach ar ran Cyngor Bro Morgannwg.
SDechreuodd y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) sy’n gwneud gwaith ledled ardaloedd Awdurdod Lleol Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd a’r Fro, ymchwilio Sean Payter ar ôl derbyn cwyn gan y Swyddfa Brawf, sef y corff sy’n gyfrifol am brofi a dilysnodi metelau gwerthfawr.
Roedd y Swyddfa Brawf wedi cynnal prawf o brynu gan gem2gems, cwmni a weithredir gan Payter a Stefan Hodgson o Gasnewydd, oedd yn gwerthu gemwaith ar eBay.
Datgelodd nad oedd eitem yn arian fel ei disgrifiad ac nid oedd yn cynnwys y gemau oedd yn y disgrifiad.

Bu i brofion pellach gan y GRhR ddatgelu bod eitemau gemwaith eraill wedi’u disgrifio’n anghywir a bod colur oedd yn cael ei werthu’n anniogel ac o bosibl yn torri rheolau dilysnodi.
Ar ôl sicrhau gwarant ar gyfer cartref Payter, gwnaeth swyddogion y GRhR atafael gemwaith, colur a £12,845 mewn arian parod.
Roeddent wedi bod yn prynu eitemau megis mwclis, breichledi a chlustdlysau o wefan Tsieineaidd heb sicrhau eu bod nhw’n unol â’u disgrifiadau.
Adnabuwyd cyfflincs a beltiau ffug ynghyd â cholur nad oedd yn ddiogel i’w ddefnyddio.
Bu i Payter o St Davids Crescent ym Mhenarth a Hodgson, o Park Drive Casnewydd bledio’n euog i 12 o droseddau i gyd; dau dan Amddiffyn Defnyddwyr dan Reoliadau Masnachu Annheg, chwech o dan y Ddeddf Dilysnodi, dau dan Reoliadau Gorfodaeth Cynnyrch Cosmetig a dau dan y Ddeddf Nodau Masnach.
Cawsant ddedfryd o 20 mis yn y carchar, wedi’i leihau i 14 mis yn sgil pledio’n euog ac wedi’i ohirio am 18 mis.

Rhaid i’r ddau hefyd dalu tâl dioddefwyr sef £140 yr un a bydd Mr Payter yn wynebu ymchwiliad arall dan Ddeddf Enillion Troseddau.
Dywedodd y Barnwr Nicola Jones pe na byddai’r dynion yn wael, byddai’r ddau wedi cael eu hanfon i’r carchar.
Nododd bod hwn yn fusnes soffistigedig ar raddfa fawr, ac nad oedd y diffynyddion yn malio dim bod y cynnyrch cosmetig yr oeddent yn ei wario’n anniogel. Mae hefyd wedi nodi pryder nad oedd unrhyw ffordd i atafael y nwyddau anghyfreithlon gan y cwsmeriaid.
Dywedodd y barnwr hefyd nad oedd y dynion wedi dangos unrhyw fath o ddyletswydd gofal tuag at y prynwyr, gyda chwynion a cheisiadau am ad-daliadau’n cael eu hanwybyddu.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Williams, Cadeirydd Cydbwyllgor y GRhR ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol, Rheoliadol a Chynllunio, Cyngor Bro Morgannwg: “Roedd hyn yn weithrediad ofnadwy oedd yn cymryd arian gan y cyhoedd am eitemau ffug.

“Mae gwaith gwych gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wedi arwain at yr erlyniad, sy’n sicrhau na fydd rhagor o bobl yn dioddef gan y cwmni.
“Dylai’r achos hwn fod yn rhybudd i bobl eraill sy’n gweithredu mewn modd anghyfreithlon yn ein cymuned. Bydd y Cyngor yn rhagweithiol yn ceisio amddiffyn ein preswylwyr ac yn oedi dim wrth gymryd camau gweithredu os byddant yn darganfod bod pobl yn gweithredu’n anghyfreithiol.”