Cost of Living Support Icon

 

Lansio Bin Bwced a Rhaw yn Ynys y Barri i fynd i’r afael â phlastig untro

Mae bin bwced a rhaw fydd yn annog ailddefnyddio teganau traeth wedi’i ddatgelu yn Ynys y Barri cyn penwythnos Gŵyl y Banc mis Awst. 

 

  • Dydd Gwener, 23 Mis Awst 2019

    Bro Morgannwg

    Barri



Barry Island Bucket and Spade Bin 2 small

Y mesur yw’r diweddaraf mewn cyfres o fentrau i leihau sbwriela a phlastig untro yno gan Gyngor Bro Morgannwg.


Mae’r ‘bin’ wedi’i wneud yn llwyr o ddeunydd wedi’i ailgylchu ac mae ar o leiaf un o’r prif rampiau sy’n arwain at y traeth.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg:

 

“Datganodd Cyngor Bro Morgannwg argyfwng hinsawdd ym mis Gorffennaf ac yn unol â hyn mae wedi rhoi cyfres o fesurau ar waith yn ddiweddar fydd yn torri ar ddefnydd plastig untro.

 

Barry Island Bucket and Spade Bin small

“Mae’n siom fawr gweld bwcedi, rhawiau a theganau traeth eraill yn y bin ddiwedd y dydd, neu’n waeth yn cael eu gadael ar y traeth. Felly os nad yw pobl am fynd a’r rhai nhw adref gallan nhw fynd ag ef i eraill ei fwynhau. 
 

 

“Mae hwn yn un o sawl syniad da a awgrymwyd gan y nifer o grwpiau cymunedol actif rydym yn ffodus i weithio gyda nhw. Dylid roi cymeradwyaeth benodol i Gyfeillion Traethau’r Barri, Barri Hyfryd a Barrybados. Y mae pawb yn gweithio’n galed i wneud Ynys y Barri’n gyrchfan glân môr enwocaf Cymru, a’r lanaf hefyd!”

 

Mae’r bin bwced a rhaw yn rhan o’r un ymgyrch Yn y Bin! a welodd neges celf dywod 100 metr o led yn cael ei datgelu'n gynharach yn yr wythnos i godi ymwybyddiaeth o sut y gall ymwelwyr waredu eu sbwriel yn gyfrifol.