Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 09 Mis Ebrill 2019
Bro Morgannwg
Mae Hysbysiad Stop Dros Dro wedi’i gyflwyno i’r cwmni, a ddechreuodd weithio ar eu datblygiad preswyl South Haven cyn iddyn nhw gael y caniatâd perthnasol.
Bydd y Cyngor hefyd yn ystyried cyflwyno Hysbysiad Gorfodi a Hysbysiad Stop llawn os bydd angen i sicrhau na chyflawnir unrhyw waith adeiladu pellach heb awdurdod.
Cyn y Nadolig, cyflwynodd y Cyngor hysbysiadau gorfodi tebyg i Persimmon, gan eu gorfodi i roi’r gorau i adeiladu a gwerthu tai newydd ar y Glannau nes y bydd cynnydd sylweddol wedi’i wneud yn y gwaith o adeiladu barrau a bwytai yng Nghanol yr Ardal.
Ers hynny, mae gwaith wedi dechrau ar Ganol yr Ardal ac rydym yn gweithio gyda Persimmon i sicrhau y caiff ei gwblhau cyn gynted â phosibl ochr yn ochr â chyfran resymol o ddatblygiadau preswyl.
Dywedodd y Cyng. Jonathan Bird, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio: “Er ein bod ni’n croesawu’r gwaith o godi cartrefi newydd i drigolion y Barri, mae’n rhaid dilyn y gweithdrefnau cynllunio priodol ac nid felly y bu yn yr achos hwn. “Mae Consortiwm y Glannau wedi parhau i anwybyddu’r fath ymrwymiadau, gan anfon neges sy’n peri pryder o ran eu hagwedd tuag at y gymuned leol. “Fel y dangoswyd cyn y Nadolig, ni fyddwn yn petruso rhag rhoi camau cadarn ar waith i sicrhau bod datblygwyr yn bodloni eu holl ymrwymiadau nid yn unig mewn cysylltiad â’r project hwn ond unrhyw broject arall. “Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos er mwyn sicrhau bod y datblygiad yn symud yn ei flaen mewn dull cytunedig a derbyniol.”
Dywedodd y Cyng. Jonathan Bird, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio: “Er ein bod ni’n croesawu’r gwaith o godi cartrefi newydd i drigolion y Barri, mae’n rhaid dilyn y gweithdrefnau cynllunio priodol ac nid felly y bu yn yr achos hwn.
“Mae Consortiwm y Glannau wedi parhau i anwybyddu’r fath ymrwymiadau, gan anfon neges sy’n peri pryder o ran eu hagwedd tuag at y gymuned leol.
“Fel y dangoswyd cyn y Nadolig, ni fyddwn yn petruso rhag rhoi camau cadarn ar waith i sicrhau bod datblygwyr yn bodloni eu holl ymrwymiadau nid yn unig mewn cysylltiad â’r project hwn ond unrhyw broject arall.
“Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos er mwyn sicrhau bod y datblygiad yn symud yn ei flaen mewn dull cytunedig a derbyniol.”