Ffair Yrfaoedd y Cyngor yn llwyddiant!
Ddydd Gwener diwethaf, cynhaliodd Cyngor Bro Morgannwg ffair yrfaoedd ar gyfer tair ysgol uwchradd leol.

Cafodd y ffair ei threfnu mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg, Datblygu Sefydliadol a Gyrfa Cymru.
Gwahoddwyd disgyblion blwyddyn naw o Ysgol Uwchradd Pencoedtre, Ysgol Uwchradd Whitmore ac Ysgol Gyfun Gatholig Sant Richard Gwyn i ddod i’r digwyddiad yn Siambr y Cyngor a oedd wedi’i thrawsnewid yn safle stondinau rhyngweithiol.
Roedd amrywiaeth o stondinau o wahanol adrannau’r Cyngor er mwyn tynnu sylw at y gwahanol gyfleoedd gyrfaol a’r llwybrau prentisiaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rhoddwyd cyfle i’r disgyblion, a oedd wedi dewis eu pynciau TGAU yn ddiweddar, holi swyddogion ynglŷn â’u rolau yn y Fro, a’r rheiny o amrywiaeth o wasanaethau megis Cynllunio, Tai a Gwasanaethau Cyfreithiol, Mecaneg a TGCh.
Roedd cynrychiolwyr o Goleg Caerdydd a’r Fro, Gyrfa Cymru, ACT Training a chyflogwyr lleol eraill wrth law hefyd i drafod cyfleoedd hyfforddi.
Yn ogystal ag ateb cwestiynau, roedd staff hefyd yn dosbarthu pamffledi ac yn cynnal cwisiau a gemau i roi blas ar y math o waith y gallai’r disgyblion ei wneud yn y dyfodol.
Yn ogystal â hynny, roedd rhai stondinau’n rhoi cyfle i ddisgyblion y Fro wneud cais am brofiad gwaith yn eu hadrannau.
Daeth y syniad y tu ôl i’r digwyddiad ei hun o Gabinet Cyngor Ieuenctid y Fro gyda’r nod o wella’r amrywiaeth o gyfleoedd profiad gwaith i bobl ifanc yn lleol.
O fod y cyntaf o’i fath, digwyddiad prawf ydoedd yn anad dim, gyda’r bwriad i ehangu’r ffair yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Sgiliau: “Mae’n gyfle gwych i’r disgyblion gael gafael ar gyfoeth o wybodaeth a phrofiad o’r fath. Ar gyfnod mor allweddol yn eu gyrfa academaidd, mae’n bwysig eu sbarduno i feddwl am yr hyn y gallent ddymuno ei wneud yn nes ymlaen yn eu bywydau.
“Mae digwyddiadau fel hyn yn annog disgyblion i barhau i ddatblygu eu sgiliau a’u galluoedd, gan roi’r hyder iddynt wireddu eu huchelgeisiau a chyrraedd eu potensial yn llawn.”