Adeilad cymundeol Tresimwn yn cael ei uwchraddio yn rhan o'r gwaith i wella Lôn Pum Milltir
Ystafell Ddarllen Tresimwn yw’r adeilad cymunedol cyntaf ym Mro Morgannwg i elwa ar ran o’r gwaith sy’n cael ei gynnal i uwchraddio’r Lôn Pum Milltir gerllaw.
Mae’r contractwr, Alun Griffiths, wedi gosod arwyneb newydd ar lawr maes parcio’r ganolfan gymunedol brysur hon yn rhan o gytundeb a negodwyd gan Gyngor Bro Morgannwg.
Cafodd y gwaith ei gynnal ar gais cynghorydd lleol ac Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio, y Cynghorydd Jonathan Bird.
Yn ôl telerau’r contract i gyflwyno’r cynllun Lôn Pum Milltir newydd, rhaid i’r contractwr ddarparu buddion cymunedol hefyd ar ffurf gwaith adeiladu lleol ar raddfa is a thrwy gynnig cyfleoedd hyfforddiant.
Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd y Cyngor, “Mae Ystafell Ddarllen Tresimwn yn gyfleuster gwerthfawr iawn i’r gymuned ac felly mae’n arbennig cael bod yn rhan o’r gwaith i’w gwella. Bydd y maes parcio newydd yn gwneud y ganolfan yn fwy croesawgar a hygyrch, a gobeithiwn y bydd yn arwain at ddenu hyd yn oed yn fwy o bobl drwy ei drysau.”
Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio: “Mae gwella bywydau trigolion lleol wrth wraidd y project Lôn Pum Milltir. Negododd y Cyngor yn galed i sicrhau bod y contract yn cynnwys darpariaeth helaeth ar gyfer projectau o fudd i’r gymuned ac mae’n bleser gweld cyfleuster lleol mor werthfawr yn dod y cyntaf i elwa ar y gwaith hwn.”
Dywedodd Paul Fisher, Cadeirydd Pwyllgor yr Ystafell Ddosbarth: “Diolch i Alun Griffiths a Chyngor Bro Morgannwg, mae’r maes parcio newydd sbon hwn yn dod â gwelliant mawr i’r Ystafell Ddarllen.
“Mae ein defnyddwyr wedi bod yn awyddus iawn i weld y gwelliant mawr sydd wedi dod o’r datblygiad newydd hwn. Mae’r gwaith hyn yn dilyn nod Pwyllgor yr Ystafell Ddarllen i ddarparu cyfleuster o’r radd flaenaf i gymuned Tresimwn.
“Diolch, hefyd, i Mike Miller, preswylydd yn Nhresimwn, am gynnal y gwaith sylfaenol paratoadol cyn y gwaith o ailosod wyneb y maes parcio. Gyda’r gwaith o greu’r Lôn Pum Milltir yn cyrraedd eu camau olaf erbyn hyn, mae projectau cymunedol tebyg bellach yn cael eu nodi.”
Bwriad y project i wella Lôn Pum Milltir yw gwella diogelwch ar hyd y ffordd bresennol rhwng yr A48 cyffordd Sycamore Cross hyd at Weycock Cross yn y Barri.
Mae’r cynllun yn cynnwys cyfuniad o welliannau gan gynnwys adeiladu ffordd newydd sy’n osgoi’r rhan ganolog droellog o’r ffordd bresennol, codi pont newydd a chreu troedffordd a beicffordd gyfunol, a chroesfan ddiogel i farchogion.
Pan gaiff ei hagor, bydd cyfyngiad cyflymder o 60mya ar y ffordd o Sycamore Cross hyd at Ganolfan Heboga Cymru.
Bydd y ffordd bresennol yn parhau ar agor ar ôl i’r cynllun gael ei gwblhau at ddibenion mynediad lleol ac fel dewis mwy diogel i gerddwyr, marchogion a beicwyr.