Bydd y safle arfaethedig yn destun Ymgynghoriad Cyn Cais a gaiff ei gynnal gan adran dai'r Cyngor sy'n gweithredu fel y datblygwr. Mae hwn yn ofyniad statudol ar gyfer unrhyw gynigion yr ystyrir eu bod yn y dosbarthu ‘datblygiad mawr’. Bydd y broses hon yn galluogi partïon â diddordeb i wneud sylwadau ar fersiwn drafft o’r cais cynllunio dros gyfnod ymgynghori o 28 diwrnod. Bydd y cais cynllunio drafft yn cynnwys holl ddogfennau'r cais cynllunio megis cynlluniau graddedig, arolygon ac adroddiadau technegol. Yn rhan o’r ymgynghoriad 28 diwrnod hwn, gall y datblygwr ddewis gynnal digwyddiad ymgysylltu â’r gymuned lle y caiff partïon â diddordeb y cyfle i siarad â’r datblygwr ac edrych ar ddogfennau'n ymwneud â'r cais drafft.
Yn dilyn yr ymgynghoriad 28 diwrnod, rhaid i’r datblygwr lunio Adroddiad Cyn Cais y mae’n rhaid iddo ddangos sut mae’r datblygwr wedi cynnal yr ymgynghoriad, nodi’r problemau a nodwyd gan ymatebwyr a sut mae’r sylwadau wnaed wedi’u hystyried yn y cynnig terfynol. Rhaid cyflwyno’r adroddiad hwn ochr yn ochr ag unrhyw gais cynllunio dilynol sy’n cael ei wneud i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i ddilysu’r cais. Ar ôl cwblhau’r Broses Cyn Cais, gall y datblygwr wedyn gyflwyno cais cynllunio llawn i’r Awdurdod Cynllunio Lleol benderfynu arno. Pan gaiff cais cynllunio llawn ei gyflwyno, bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn cynnal ymgynghoriad 21 diwrnod i alluogi partïon â diddordeb i wneud sylwadau ar y cais. Wedyn caiff y sylwadau eu hystyried wrth benderfynu ar y cynnig.
Os caiff y datblygiad ei gymeradwyo, rhagwelir y caiff y safle ei ddefnyddio o 2020 ymlaen.