Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 05 Mis Medi 2018
Bro Morgannwg
Mae ymgyrch Marw i Weithio y TUC yn ceisio annog holl sefydliadau'r DU i ddiogelu cyflogaeth ymhellach a chydnabod salwch angheuol fel "nodwedd a ddiogelir".
Mae'r Siarter yn cydnabod bod angen cymorth a dealltwriaeth ar salwch angheuol yn ogystal â modd o leihau straen a gofid i staff.
Drwy lofnodi, mae Cyngor y Fro wedi cydnabod yn ffurfiol ei ymrwymiad parhaus i ddiogelu staff â diagnosis, a sicrhau y gallant ddisgwyl cyfnod 'gwarchodedig' lle na ellir eu diswyddo o ganlyniad i'w cyflwr.
Sut bydd y Cyngor yn cefnogi eu staff?
Roedd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr y Cyngor, yn bresennol yn y digwyddiad arwyddo i roi cefnogaeth y Fro y tu ôl i'r ymgyrch, a dywedodd: "Drwy gynnig y cymorth hwn, mae'r Cyngor am roi'r dewis i bob unigolyn sy'n brwydro cyflyrau angheuol o sut i dreulio'u misoedd olaf, a’r tawelwch meddwl i wybod bod eu swydd a budd-daliadau marwolaeth mewn swydd yn cael eu diogelu. "Drwy lofnodi’r Siarter, a chefnogi'r ymgyrch Marw i Weithio, rydym hefyd yn annog cyflogwyr eraill i ymuno â'r ymgyrch er mwyn gwaredu’r rhwystrau a rhoi cymorth, arweiniad a thawelwch meddwl i weithwyr sy'n profi salwch ac yn brwydro yn ei erbyn. "Mae pob person sy'n brwydro yn erbyn salwch angheuol yn haeddu'r dewis o sut i dreulio'u misoedd olaf, a dyna pam mae ein sefydliad wedi llofnodi'r Siarter."
Roedd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr y Cyngor, yn bresennol yn y digwyddiad arwyddo i roi cefnogaeth y Fro y tu ôl i'r ymgyrch, a dywedodd:
"Drwy gynnig y cymorth hwn, mae'r Cyngor am roi'r dewis i bob unigolyn sy'n brwydro cyflyrau angheuol o sut i dreulio'u misoedd olaf, a’r tawelwch meddwl i wybod bod eu swydd a budd-daliadau marwolaeth mewn swydd yn cael eu diogelu.
"Drwy lofnodi’r Siarter, a chefnogi'r ymgyrch Marw i Weithio, rydym hefyd yn annog cyflogwyr eraill i ymuno â'r ymgyrch er mwyn gwaredu’r rhwystrau a rhoi cymorth, arweiniad a thawelwch meddwl i weithwyr sy'n profi salwch ac yn brwydro yn ei erbyn.
"Mae pob person sy'n brwydro yn erbyn salwch angheuol yn haeddu'r dewis o sut i dreulio'u misoedd olaf, a dyna pam mae ein sefydliad wedi llofnodi'r Siarter."