Cyngor y Fro yn cyhoeddi cynydd ar y nifer o siwrneiau ar wasanaeth bws 98 i drigolion y Barri
Mae’n bleser gan Gyngor y Fro gyhoeddi, mewn cydweithrediad â Bws Caerdydd, bod nifer y siwrneiau sydd ar gael i deithwyr ar wasanaeth bws 98, wedi cynyddu o 3 Medi tan 21 Rhagfyr.
Mae’r Cyngor wedi sicrhau cyllid ar gyfer siwrneiau ychwanegol yn y prynhawn, o ddydd Llun i ddydd Gwener, (Highlight Park i Sgwâr y Brenin, y Barri, via Morrisons) am gyfnod penodol, er mwyn ceisio cynyddu nifer y teithwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth.
Bydd hyn yn ei gwneud yn hyfyw i Fws Caerdydd barhau â’r siwrneiau hyn ar sail fasnachol (heb gymorth) y tu hwnt i Ragfyr 2018.
Roedd Bws Caerdydd cyn hyn wedi gwneud y penderfyniad anodd i leihau nifer siwrneiau Bws rhif 98 am fod y diffyg refeniw yn golygu nad oedd y gwasanaeth yn ariannol hyfyw ar amseroedd penodol yn ystod y dydd.

Mae’r cytundeb hwn rhwng y Cyngor a Bws Caerdydd yn golygu y gall trigolion Bro Morgannwg, defnyddwyr bysus lleol yn enwedig, fanteisio ar amserlen sydd wedi ei hymestyn dros dro a chael cyfle i wneud y gwasanaeth yn un y bydd yn ddichonadwy parhau â hi wedi 2018.
Bydd twf Gwasanaeth 98 yn cael ei ddadansoddi ym mis Tachwedd 2018 a bydd Bws Caerdydd wedyn yn penderfynu a fyddant yn parhau â’r gwasanaeth, gyda’u siwrneiau mwy aml, ar sail fasnachol. Anogir trigolion lleol, felly, i ddefnyddio’r gwasanaeth er mwyn i’r siwrneiau ychwanegol barhau a’u gwneud yn fasnachol ymarferol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth, y Cyng. Geoff Cox: “Mae hyn yn newyddion gwych i bobl y Barri.
“Mae nifer sylweddol o breswylwyr yn dibynnu ar y gwasanaeth bws rhif 98 ac rwy’
n falch trwy gyllid gan Gyngor Bro Morgannwg yr ydym wedi gallu gosod estyniad ar y gwasanaeth hwn ar sail prawf tan fis Rhagfyr eleni.”

Dywedodd Maer y Fro, Cyng. Rowlands dros ward Dyfan: “Mae hwn yn llwyddiant mawr i breswylwyr y Barri yn ogystal ag i’r Cyng. Bailey a minnau.
“Buon ni’n gweithio’n galed dros y flwyddyn ddiwethaf gyda phreswylwyr, Bws Caerdydd a swyddogion Cyngor y Fro i sicrhau arian er mwyn estyn gwasanaeth bws rhif 98 am gyfnod prawf.
“Fodd bynnag, lle preswylwyr y Barri yw e nawr i ddangos bod y gwasanaeth estynedig yn llwyddiant a bod ei angen yn barhaol.”
Dywedodd y Cyng. Vince Bailey dros ward Dyfan:
“Mae preswylwyr Highlight Park wedi bod yn brwydro dros wasanaeth bws ystyrlon ers peth amser ac fel cynghorwyr lleol, rydym yn hynod falch o fod wedi gallu eu helpu nhw.
“Hoffwn i ddiolch i Gyngor y Fro am roi arian ar gael i estyn y llwybr bws am gyfnod prawf. Mae’r rhif 98 yn cynnig gwasanaeth hanfodol i breswylwyr, ond mae angen i ni nawr gymryd mantais o’r cyfle hwn er mwyn profi y dylid ei gadw yn barhaol.”